Ysgol yn Blaina yn dod yr Ysgol Prem Aware gyntaf yng Nghymru

Elusen The Smallest Things yn cyflwyno eu Gwobr Prem Aware i  Ysgol Gynradd Coed-y-Garn!

Mae Ysgol Gynradd Coed-y-Garn yn Nantyglo wedi derbyn gwobr Prem Aware The Smallest Things. Drwy gwblhau hyfforddiant ychwanegol a chamau i ddod yn Ysgol Prem Aware bydd gan staff addysgu yn Ysgol Gynradd Coed-y-Garn well dealltwriaeth o’r anghenion dysgu a all fod gan rai plant a anwyd cyn amser ac yn medru adnabod anghenion ynghynt, gan fedru rhoi cymorth amserol ac wedi ei dargedu.

Dywedodd Lauren Cairns, Pennaeth Ysgol Gynradd Coed-y-Garn:

“Ar ôl ymrwymo yn gynharach eleni, rydym wrth ein bodd mai Coed-y-Garn yw’r ysgol gyntaf yng Nghymru i ennill gwobr Prem Aware The Smallest Things. Fel ysgol, rydym yn ymroddedig i wella llesiant a chefnogi dysgwyr, a bydd cael gwell dealltwriaeth o’r effaith y gall geni cyn amser ei gael ar unigolyn yn fanteisiol wrth gefnogi ein disgyblion a’n teuluoedd.”

Wrth longyfarch y camau a gymerwyd gan Ysgol Gynradd Coed-y-Garn dywedodd Catriona Oglivy, Sefydlydd a Chadeirydd The Smallest Things:

"Mae The Smallest Things yn hynod falch fod Ysgol Gynradd Coed-y-Garn wedi ymuno â’n rhestr gynyddol o ysgolion Prem Aware ar draws Prydain. Drwy wneud hynny maent wedi dangos eu hymroddiad i ddiwallu yr anghenion a all fod gan rai disgyblion a gafodd eu geni cyn amser. Gyda chyfartaledd o ddau i dri phlentyn ym mhob ystafell ddosbarth yn cael eu geni cyn amser, gwyddom y gall athrawon fod â rhan hanfodol wrth gefnogi a gwella’r canlyniadau hirdymor ar gyfer y garfan hon o blant. Mae bod ag athrawon wedi eu hyfforddi sy’n gwybod beth i gadw golwg amdano a sut i helpu disgyblion a gafodd eu geni cyn amser yn cael effaith mor gadarnhaol a deithiau addysgol plant.”

Mae cynllun gwobr Prem Aware The Smallest Things yn hyrwyddo defnyddio adnodd hyfforddiant ar-lein ‘Gwybodaeth ar Eni Cyn Amser ar gyfer Gweithwyr Addysgol Proffesiynol”, adnodd hyfforddiant ar-lein a ddatblygwyd gan yr Athro Samantha Johnson a’i chydweithwyr yn Nhîm Astudiaeth PRISM (‘Premature Infants’ Skills in Mathematics’). Mae’r adnodd ar-lein yn amlinellu yr effaith y gall geni cyn amser ei gael ar ddatblygiad ac addysg plant, ac yn cynnig ffyrdd ymarferol i roi cefnogaeth yn yr ysgol ar gyfer plant a gafodd eu geni cyn amser.

Er mai disgyblion a gafodd eu geni lawer cyn eu hamser (cyn beichiogrwydd o 28 wythnos) sy’n fwyaf tebygol o fod angen cymorth ychwanegol, dengys ymchwil y gall plant a anwyd ond ychydig wythnosau yn gynnar ddal wynebu anawsterau yn yr ysgol. Mae’r anawsterau gwybyddol a dysgu a gysylltir fel arfer gyda geni cyn amser yn cynnwys cyflymder prosesu arafach, anawsterau gyda’r cof, sgiliau gweledol-ofodol gwaelach, anawsterau sylw ac anawsterau gyda mathemateg.

Yn y llun gwelir Mrs Rebecca Hampton (Arweinydd Bugeiliol, Llesiant, Llais Disgyblion a Chysylltiadau Cymunedol) a Lynsey Gore (Rhiant a Llysgennad The Smallest Things).