Cyllideb Blaenau Gwent 2024/2025

Mae Cynghorwyr ym Mlaenau Gwent heddiw wedi gosod eu Cyllideb ar gyfer 2024/25 mewn sefyllfa o bwysau ariannol anodd a pharhaus. Mae’r Gyllideb yn anelu i warchod y gwasanaethau rheng flaen pwysicaf i breswylwyr a chadw’r cynnydd yn y Dreth Gyngor yn un o’r isaf yng Nghymru.

Cynhaliwyd cyfarfod o’r Cyngor Llawn heddiw i osod y Gyllideb yn dilyn misoedd o gynllunio ariannol gofalus ac ar ôl ymgysylltu helaeth gyda phreswylwyr, partneriaid a rhanddeiliaid am arbedion posibl, effeithiolrwydd a blaenoriaethau gwariant.

Cafodd y Cyngor gynnydd o 2.8% mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru, yn gyfwerth â £3.95 miliwn, a oedd unwaith eto yn is na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru. Rhybuddiodd y Cyngor y byddai’n heriol iawn gosod cyllideb gan ystyried y setliad cyllid, ynghyd â’r pwysau cost hysbys iawn, chwyddiant sy’n parhau’n uchel, cynnydd enfawr mewn costau ynni a thanwydd a chynnydd mewn gofynion gofal cymdeithasol.

Mae’r Gyllideb a gytunwyd yn cynnwys cyfres o doriadau ar draws yr awdurdod yn gyfanswm o £6.618 miliwn, gyda gweddill y bwlch yn cael ei ariannu drwy Gronfeydd wrth Gefn (£1.5 miliwn) a gostwng pwysau cost. Fel rhan o’r Gyllideb, cytunwyd ar gynnydd o 4.95% yn y Dreth Gyngor a bydd ysgolion yn derbyn cyllid ychwanegol i gefnogi pwysau cost penodol yn gyfwerth â £864,000. Er y bydd eu cyllidebau arian yn wastad o ran arian yn unol â’r angen i wneud arbedion ar draws y bwrdd, yn gyffredinol bydd ysgolion yn derbyn cynnydd o 1.6% mewn gwir dermau.

Dywedodd Steve Thomas, Arweinydd y Cyngor:

“Rydym bob amser wedi bod yn dryloyw am ein sefyllfa ariannol heriol ac wedi tynnu sylw at yr angen i wneud dewisiadau anodd ac addasu gwasanaethau i sicrhau Cyllideb gytbwys ar gyfer 2024/25. Rydym wedi ceisio dynodi arbedion a ddylai gael yr effaith leiaf ar y gwasanaethau y mae ein preswylwyr yn gwneud y defnydd mwyaf ohonynt ac sydd bwysicaf iddynt. Mae hyn yn ein galluogi i barhau i gefnogi aelodau mwyaf bregus ein cymunedau.

“Deallwn efallai na fydd croeso i unrhyw gynnydd yn y Dreth Gyngor, ond roedd hynny’n anochel o ystyried yr arbedion enfawr oedd eu hangen. Gwnaethom ein gorau i sicrhau fod y cynnydd mor fach ag sydd modd, gan ei wneud yn un o’r isaf yng Nghymru. Bydd preswylwyr sy’n byw mewn eiddo Band B, sef y rhan fwyaf o gartrefi yn y fwrdeistref, yn gweld cynnydd o £1.35 yr wythnos yn eu Treth Gyngor.

“Yn yr wythnosau diwethaf buom yn ymgynghori gyda phreswylwyr a rhanddeiliaid eraill i gasglu eu barn ar ein strategaethau ar gyfer arbed ac ysgogi cyllid. Roedd yr ymateb i’n harolwg ar y gyllideb yn gadarnhaol a hoffwn fynegi fy niolch i bawb a gymerodd ran. Mae’n hanfodol fod unigolion yn cymryd rhan mewn democratiaeth leol a’r broses gwneud penderfyniadau.

“Rydym yn byw drwy gyfnod na welwyd ei debyg mewn llywodraeth leol. Bu’n rhaid i nifer o gynghorau yn Lloegr gyhoeddi rhybuddion A114 sydd yn ymarferol yn datgan fod yr awdurdodau yn fethdalwyr, a bu’n rhaid i bob cyngor yng Nghymru ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn, sy’n gostwng yn gyflym, i helpu llenwi eu cyllidebau am yr ail flwyddyn yn olynol. Fel gyda phob cyngor, rydym yn paratoi am fwy o heriau ariannol caled. Mae’n rhaid i ni ganfod ffyrdd o arbed tua £34 miliwn o’n cyllideb dros y pum mlynedd nesaf ar ôl eisoes ddioddef degawd o doriadau yn gyfanswm o £40 miliwn. Mae’r dyfodol ar gyfer awdurdodau lleol yn llwm, ac mae’n rhaid i gyllid digonol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus fod yn flaenoriaeth ar gyfer y llywodraeth nesaf.

“Credwn fod y gyllideb a luniwyd gennym wedi’i hystyried yn drwyadl ac yn gytbwys a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y broses am eu gwaith caled a’u hymroddiad.”