Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Nod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yw datblygu a hybu De-ddwyrain Cymru fel lle gwych i fyw, i weithio ac i sefydlu busnes.

Mae’r Fargen Ddinesig yn cynnwys rhaglen o fuddsoddi gwerth £1.2 biliwn yn yr economi rhanbarthol, yn cynnwys £734 miliwn ar gyfer creu cynllun trafnidiaeth Metro De-ddwyrain Cymru. Mae’n rhaid I bob awdurdod gymeradwyo ymrwymiad gan y deg awdurdod I gael benthyg cyfanswm o £120 miliwn fel rhan o Gronfa Fuddsoddi Ehangach Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae’r aelodau o’r Bwrdd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r gymuned fusnes, y sectorau addysg ac awdurdodau lleol ac maen nhw’n rhoi cyngor ar ddatblygu a thwf yn y Rhanbarth.

Gyda’n gilydd, gallwn greu newid economaidd a chymdeithasol sylweddol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, drwy well trafnidiaeth, cefnogi arloesi, gwell rhwydwaith digidol, ddatblygu sgiliau, cefnogi menter a thwf busnes, a thrwy ddatblygiadau tai ac adfywio.