Wcráin - Sut y gallwch chi helpu

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU 2 gynllun newydd i helpu'r rhai sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin.

Wcràin Sut y gallwch chi helpu

Mae dros 100,000 o Wcrainiaid wedi ceisio lloches yn y Deyrnas Unedig drwy’r cynllun Cartrefi i Wcráin, un o’r rhaglenni fisa ehangaf a mwyaf hael yn hanes Prydain.

Fel rhan o’r cynllun mae Llywodraeth Cymru wedi cofrestru fel uwch-noddwr Cartrefi i Wcráin. Mae hyn yn golygu fod Llywodraeth Cymru yn gweithredu fel noddwr ar gyfer pobl o Wcráin i gynnig lloches a nodded a bydd yn darparu llety dechreuol iddynt (canolfannau croeso, gwestai a pharciau gwyliau), cefnogaeth a gofal ledled Cymru. Mae’r dull hwn, a weithredir hefyd gan Lywodraeth yr Alban, yn dileu’r angen i gyfateb Wcrainiaid gyda noddwr unigol penodol cyn iddynt fedru teithio i’r DU drwy’r system fisa.

Unwaith y byddant yn y llety dechreuol, caiff y rhai sy’n cyrraedd o Wcráin wedyn eu cefnogi i ailsefydlu mewn llety ‘nawdd’ mwy tymor canol a hirdymor mewn cymunedau. Mae Cyngor Blaenau Gwent yn gweithio, wrth ochr holl awdurdodau lleol eraill Cymru, i edrych am ddatganiadau newydd o ddiddordeb gan rai a fedrai gynnig llety. Oes gennych chi ystafell sbâr y gallech ei chynnig?

Gallwch gael mwy o wybodaeth am sut i ddatgan eich diddordeb mewn cynnig llety drwy gysylltu â’r tîm rhanbarthol: Lisa Meredith Lisa.Meredith@blaenau-gwent.gov.uk 

 

Beth mae cynnig llety yn ei olygu?

“Sut fyddaf i yn gwybod os yw fy ystafell sbâr yn addas?”

Sylweddolwn y bydd pob cynnig llety yn wahanol ac er nad oes unrhyw ddisgwyliad penodol, mae angen i’ch llety fod yn rhydd o beryglon iechyd a diogelwch difrifol. Yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth, bydd Cyngor Blaenau Gwent yn ymweld â’ch cartref ac yn cynnal gwiriad llety a diogelu. Caiff y gwiriadau hyn eu trefnu ar amser a dyddiad sy’n gyfleus i chi.

“Pa gefnogaeth sydd ar gael i fi pan fyddaf yn dod yn cynnig llety?”

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn parhau i fod yn ymroddedig i roi’r lefel briodol o gymorth i bawb sydd newydd gyrraedd a’r rhai sy’n lletya – er mwyn sicrhau fod y trefniadau llety yn parhau mor gryf ag sydd modd. Mae’r cymorth hwn yn cynnwys rhoi cyngor ymarferol i gynorthwyo’r rhai sy’n cynnig llety – yn ogystal â chefnogi eich gwesteion yn uniongyrchol. Aseinir ‘gweithiwr cyswllt’ ar gyfer pob trefniant lletya. Ers nifer o flynyddoedd bu’r awdurdod lleol yn gweithio gyda corff trydydd sector o’r enw Displaced People in Action (DPIA). Mae gan DPIA lawer o brofiad mewn cefnogi ffoaduriaid a gyrhaeddodd y Deyrnas Unedig – ar ôl ffoi o wrthdaro mewn gwledydd tebyg i Sudan, Syria, Iraq ac Afghanistan – mae ganddynt brofiad helaeth mewn adsefydlu ffoaduriaid.

“A allaf godi rhent os wyf yn cynnig llety?”

Ni fedrir codi rhent os hoffech gynnig llety dan y Cynllun Cartrefi i Wcráin – fodd bynnag byddwch yn dewis y taliad diolch opsiynol – a ddarperir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Bydd pawb sy’n cynnig llety yn derbyn y taliad ‘diolch’ bob mis am ba bynnag mor hir mae’r trefniant llety yn parhau i gydnabod eu cefnogaeth barhaus ymysg y sefyllfa o gostau byw cynyddol.

'Diolch' mae taliadau o £600 y mis bellach wedi cael eu hymestyn o 12 mis i 2 flynedd, fel y gall gwesteion nad ydynt efallai yn barod i symud i lety annibynnol aros mewn llety am fwy lle mae’r bobl sy’n cynnig llety yn fodlon ymestyn trefniadau.

“A oes angen i mi ddarparu bwyd ar gyfer y bobl rwy’n eu lletya?”

Nid oes disgwyliad y bydd yn rhaid i westeion ddarparu bwyd na choginio ar gyfer gwesteion tu hwnt i’r anghenion dechreuol pan gyrhaeddant, ond gallech ddewis gwneud hynny. Gall y bobl sy’n cynnig llety hefyd ofyn am ‘gyfraniad aelwyd’ ar gyfer rhannu biliau/costau. Mae gan y rhai a gaiff eu lletya fynediad i arian cyhoeddus a gallant wneud cais am fudd-daliadau tuag at eu costau byw eu hunain.

Dywedodd y Cyng Steve Thomas, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent:

“Ar ran yr awdurdod lleol hoffwn ddiolch o galon i’r rhai sydd eisoes yn darparu llety i Wcrainiaid. Mae’n galonogol gweld sut mae’r cynllun yn parhau i gael cymaint o gefnogaeth leol – sy’n dyst i lefel yr haelioni ac ewyllys da yn ein cymunedau. Mae’r cymorth a gynigiwyd gan letywyr i’r rhai sy’n ffoi rhag y gwrthdaro yn Wcráin wedi cyfrannu at fudiad cenedlaethol hynod sydd wedi helpu teuluoedd i ailadeiladu eu haddysg, i Wcrainiaid ganfod cyflogaeth – ac i ffurfio cyfeillgarwch oes, ond gyda channoedd yn fwy o Wcrainiaid yn dal i fyw yn y Canolfannau Croeso rydym yn edrych am letywyr ychwanegol.”

 

Ffyrdd eraill o helpu

Gwneud cais am fisa Cynllun Teulu Wcráin

Diben y cynllun hwn yw helpu pobl sy'n ffoi o Wcráin i ddod i ymuno ag aelod o'r teulu yn y DU neu ymestyn eu harhosiad yn y DU.

 

Cynnig cartref yng Nghymru i ffoaduriaid o Wcráin

 ​​​​​​​​​Pwyllgor Argyfwng Trychinebau

Os ydych am helpu ond na allwch gynnig llety, gallwch gyfrannu at y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau.

Mae'r grŵp hwn o elusennau yn gweithio ar lawr gwlad yn Wcráin a gwledydd cyfagos i ddarparu hanfodion, gan gynnwys bwyd, dŵr, cysgod a chymorth meddygol.

Rhoi rhodd ​​​​​

Ar hyn o bryd nid ydym yn cymryd rhoddion o ddillad na nwyddau eraill.
 
Diolch i holl drigolion a chymunedau Blaenau Gwent am eu holl haelioni a chefnogaeth.  ​

Gallwch hefyd gael gwybod am nifer o gynlluniau a sefydlwyd i helpu i gefnogi'r rhai yr effeithir arnynt drwy ffonio rhif llinell gymorth y DU ar 0808 175 1508.

Sefydlwyd cronfa y gall grwpiau Cymunedol wneud cais am grant o hyd at £10,000

Cronfa Croeso Cenedl Noddfa - Sefydliad Cymunedol Cymru

I gael rhagor o arweiniad a gwybodaeth am gymorth yr Wcráin i bobl yr effeithir arnynt, ewch i:

Wcráin: cefnogaeth i bobl a effeithir | LLYW.CYMRU

Gall busnesau a sefydliadau hefyd yn awr gofrestru cynigion o help a chefnogaeth i bobl o Wcráin sy’n ceisio lloches yng Nghymru drwy wefan Llywodraeth Cymru. Mae’r ddolen hon ar gyfer busnesau a sefydliadau yn unig i gofrestru eu cynigion cefnogaeth, nid ar gyfer unigolion.

Apêl Argyfwng Wcráin y Groes Goch Brydeinig​

Mae ymosodiad Rwsia ar Wcráin wedi dadleoli degau o filoedd o Wcreiniaid o'u cartrefi a nodi dechrau'r hyn a allai fod yr argyfwng dyngarol mwyaf yn Ewrop ers degawdau.

Mae'r Groes Goch Brydeinig wedi lansio apêl codi arian brys mewn ymateb i'r ymladd yn Wcráin.

Y flaenoriaeth nawr yw helpu pobl i gael gafael ar ddŵr glân, gofal iechyd a chymorth seicogymdeithasol.

Mae Cymdeithas y Groes Goch Wcreinaidd a Phwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch (ICRC) wedi bod yn gweithio law yn llaw â chymunedau yr effeithiwyd arnynt i ymateb i'r anghenion dyngarol enfawr sydd wedi'u hachosi gan bron i wyth mlynedd o wrthdaro.

Byddai rhodd i Apêl Argyfwng Wcráin y Groes Goch Brydeinig yn golygu y gellir estyn dwylo i fwy o bobl sydd mewn angen dybryd.

Gallai eich rhodd helpu rhywun i gael:

  • bwyd
  • dŵr
  • cymorth cyntaf
  • meddyginiaethau
  • dillad cynnes
  • lloches​

I roi, ewch i wefan argyfwng y Groes Goch​​​​​​​​.