Pridiannau Tir Lleol

Dan Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gadw cofrestr gywir a chyfredol o Bridiannau Tir Lleol sy'n effeithio ar dir ac eiddo.

Diben y Gofrestr yw rhoi manylion yr holl gofnodion a gofrestrwyd yn erbyn eiddo o fewn y fwrdeistref a ddaw o fewn y diffiniad o bridiant tir lleol e.e. yn benodol wedi gwneud pridiant tir lleol drwy statud neu bridiant sy'n gyfyngiad neu waharddiad ar barsel o dir yn sicrhau taliad neu'n cyfyngu defnydd ac sy'n rhwymo perchnogion dilynol. Mae 12 rhan wahanol i'r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol yn cwmpasu ystod eang o feysydd, e.e. hysbysiadau pridiant ariannol, cynllunio, amrywiol, hedfan, adeiladau rhestredig a rhwystro golau.

Mae'r Adran Pridiannau Tir Lleol hefyd yn cynnal yr holl Chwiliadau Swyddogol o'r Gofrestr ar gyfer tir/eiddo o fewn Blaenau Gwent. Amcan y chwiliad yw dadlennu unrhyw gyfyngiadau neu oblygiadau cyfreithiol yn erbyn y safle. Mae'r Adran Pridiannau Tir yn casglu gwybodaeth o ystod o adrannau Cyngor Blaenau Gwent i baratoi atebion i ymholiadau chwiliad a sicrhau y caiff ceisiadau am chwiliad eu dychwelyd mor brydlon ag sydd modd, gan felly ostwng oedi yn y broses prynu tŷ.

Chwiliadau Swyddogol

Mae chwiliad Awdurdod Tir Swyddogol yn wasanaeth ar gyfer pobl sy'n prynu neu'n cael ail forgais ar eiddo ar dir yn ardal Blaenau Gwent sydd eisiau cael gwybodaeth a all effeithio arno.

Fel arfer caiff ceisiadau am chwiliad eu derbyn gan y cyfreithiwr neu drosgludydd trwyddedig yn gweithredu ar ran prynwr eiddo ond gall unrhyw un ofyn am chwiliad drwy anfon y ffurflenni cywir. Y ffurflenni yw LLC1 a CON29 ac maent ar gael gan lyfrwerthwyr cyfreithiol.

Sut I Wneud Cais Am Chwiliad Awdurdod Lleol Swyddogol Llawn

Gellir gwneud cais am Chwiliadau Awdurdod Lleol drwy'r system post neu'n electronig drwy NLIS.

Fel arfer caiff cais am chwiliad ei gyflwyno mewn dau ran: ffurflen LLC1 a ffurflen CON29.

LLC1 - cais am chwiliad swyddogol o'r Gofrestr - mae hyn yn delio gyda'r holl bridiannau sy'n rhaid eu cofrestru, er enghraifft Gorchmynion Cadwraeth Coed, Grantiau Gwella, Adeiladau Rhestredig a chytundebau Cynllunio.
CON29R - delio gyda materion megis cynlluniau ffordd, hanes cynllunio'r eiddo a materion amgylcheddol
CON29O – ffurflen opsiynol yn delio gydag ymholiadau ychwanegol a all fod yn cyfeirio'n benodol at y tir/eiddo sy'n cael ei chwilio

I wneud cais drwy'r post am chwiliad dylech gynnwys ffurflenni LLC1 a CON29R (ac os oes angen CON290) yn ddyblyg ynghyd â dau gynllun cyfredol yn dangos yr ardal i gael ei chwilio wedi ei hamlinellu mewn coch. Dylech hefyd anfon siec am y ffi ofynnol (gweler y tabl islaw) a wnaed yn daladwy i Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Dylid anfon ceisiadau am chwiliad at:

Adran Pridiannau Tir
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Y Swyddfeydd Cyffredinol
Heol y Gwaith Dur
Glynebwy
NP23 6DN

Ffioedd Chwiliad O Awst 2018

CYN TAW TAW FFI
       
Tystysgrif Chwiliad (LLC1 yn unig) £6.00 - £4.00
       
CON29R yn unig (un parsel o dir) £92.00 £18.40 £110.40
       
Chwiliad Llawn (LLC1 a CON29) £98.00 £18.40 £116.40
       
YMHOLIADAU YCHWANEGOL      
       
CON290 Opsiynol Cwestiynau 4-21 £5.00 £1.00 £6.00
CON290 Opsiynol Cwestiwn 22 £10.00 £2.00 £12.00
Parsel ychwanegol o Dir £10.00 £2.00 £12.00

A Allaf Archebu Ymholiadau Unigol O CON29R?

Na, ni ellir rhannu CON29R yn ymholiadau unigol. Rhaid gwneud cais llawn ynghyd â'r ffi briodol.

I BLE DYLWN I ANFON FY CHWILIAD COFRESTRU TIROEDD COMIN?

Rhaid anfon cais am Chwiliad Tiroedd Comin at yr Adran Pridiannau Tir. Bydd angen i chi anfon ffurflen CON29 Ymholiad Opsiynol, gan dicio Ymholiad Rhif 22. Y ffi am hyn yw £12.00 (yn cynnwys TAW).

Pa Mor Hir Fydd Hi'n Ei Gymryd I Brosesu Fy Chwiliad

Targed cenedlaethol y llywodraeth ar gyfer dychwelyd chwiliadau safonol yw deg ddiwrnod gwaith neu lai, fodd bynnag rydym wedi gosod targedau mesur perfformiad lleol ar gyfer dychwelyd chwiliadau safonol o fewn pum diwrnod gwaith. Gofynnir i chi nodi na allwn gynnig gwasanaeth cyflymach ar hyn o bryd.

Beth Yw Chwiliad Personol?

Mae chwiliad personol yn arolwg o'r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol a gynhaliwyd yn annibynnol drwy drydydd person (fel arfer Asiant Chwilio Personol).

Os dymunwch gynnal Chwiliad Personol o'r Gofrestr Pridiannau Tir lleol, cysylltwch â'r Adran Pridiannau Tir ar 01495 355086 i wneud apwyntiad. Gofynnir i chi wedyn e-bostio manylion o'r cyfeiriadau i gael eu chwilio a chynlluniau perthnasol at land.charges@blaenau-gwent.gov.uk

Os dymunwch gynnal chwiliad personol o gofrestri a gynhelir mewn man arall o fewn yr Awdurdod Lleol, dylech gysylltu â phob adran yn unigol:

Rheoli Adeiladu - E-bost building.control@blaenau-gwent.gov.uk
Priffyrdd - E-bost  HighwaysSearches@blaenau-gwent.gov.uk 
Cynllunio - E-bost planning@blaenau-gwent.gov.uk
Iechyd yr Amgylchedd - E-bost environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk

Dylid anfon ymholiadau chwiliad draeniad yn uniongyrchol at Dŵr Cymru (http://www.dwrcymru.com/en.aspx).

Ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â gweithredoedd, ffiniau neu berchnogaeth, cysylltwch â'ch Swyddfa Ardal Cofrestru Tir (http://www.gov.uk/government/organisations/land-registry)

Gwbodaeth Gyswllt

Adran Pridiannau Tir

Rhif Ffôn:01495 355086
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy NP23 6DN
Cyfeiriad E-bost: land.charges@blaenau-gwent.gov.uk