Trefnu Digwyddiad

Coroni Ei Fawrhydi’r Brenin

Bydd dathliadau ar gyfer Coroni’r Brenin yn cael eu cynnal rhwng  dydd Sadwrn 6ed Mai 2023 a dydd Llun 8fed Mai 2023.   Mae mwy o wybodaeth  am y Coroni ar gael ar y  wefan Frenhinol.  Mae’r Llywodraeth wedi cynnig ymestyn yr oriau agor o 11pm i 1am ar ddydd Gwener 5 Mai, dydd Sadwrn 6 Mai a dydd Sul 7 Mai, gan orffen ar ddydd Llun, 8 Mai 2023, ar gyfer gwerthu alcohol i’w yfed ar yr eiddo yn unig  a darpariaeth adloniant a reoleiddir a lluniaeth hwyr y nos mewn llefydd trwyddedig yn Lloegr a Chymru. Ni fydd ehangu’r oriau yn berthnasol i’r alcohol sydd yn cael ei werthu mewn mannau fel archfarchnadoedd a siopau sydd yn gwerthu alcohol yn unig. Mae’r cynnig i’w weld  yma a bydd yr hysbysiad yma yn cael ei ddiweddaru pan fydd hyn wedi ei gymeradwyo.  

Eich canllaw chi i drefnu Cau Ffordd er mwyn cynnal Parti Stryd ar gyfer y
Coroni’r Brenin 5ed -8fed   Mai 2023

Partïon Stryd

Mae partïon stryd yn rhan draddodiadol o fywyd cymunedol; maent yn ffordd syml o ddod i ‘nabod cymdogion a chwrdd ag aelodau o’r gymuned. Efallai eich bod am gynnal parti stryd er mwyn dathlu’r Jiwbilî Platinwm. Nid oes angen trwydded ar gyfer y rhan fwyaf o bartïon stryd. Ond efallai bod angen i chi gael trwydded briodol a chaniatâd os ydych am werthu  alcohol, chwarae cerddoriaeth fyw sydd wedi ei recordio, yn cynnal digwyddiad ar briffordd sydd yn golygu bod angen cau un heol neu fwy. 

Mae cyngor pellach ar drefnu partïon stryd ar gael ar y wefan  - Guide to Organising Street Parties , www.streetparty.org.uk/

Emblem y Coroni   

Mae Emblem swyddogol y Coroni ar gael i’w ddefnyddio ar gyfer y digwyddiadau sydd yn ymwneud gyda’r dathliadau’r Coroni, gan gynnwys digwyddiadau cymunedol a chenedlaethol. Mae modd ei lawrlwytho am ddim o’r wefan Frenhinol, lle y mae yna ganllawiau manwl hefyd ar gael ar sut

Trwyddedau

Os ydych am ddarparu alcohol am ddim yn eich digwyddiad o dan amgylchiadau arferol, nid oes angen trwydded arnoch.  Os ydych am werthu alcohol, bydd angen  Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro (HDDD).  Dylid caniatáu deg diwrnod gwaith er mwyn sicrhau hyn cyn y digwyddiad. 

Bydd angen HDDD os ydych yn bwriadu:

  • Chware cerddoriaeth fyw sydd ei recordio ar gyfer adloniant
  • Cynnal perfformiadau byw, ffilmiau neu ddawnsio
  • Gwerthu alcohol.
  • Gwerthu bwyd a diod rhwng m. a 5a.m.

Os ydych yn bwriadu trefnu tombola neu docynnau raffl sydd yn cael eu gwerthu ar y diwrnod ond os nad yw’r gwobrau yn werth llai na £500, nid yw’r rheoliadau gamblo yn berthnasol. Os yw tocynnau yn cael eu gwerthu o flaen llaw, bydd angen i chi gofrestru gyda’r Adran Drwyddedi  fel Loteri Cymdeithas Fach.

Am gyngor pellach, cysylltwch gyda’r Adran Drwyddedi ar 01495 355485 neu e-bostiwch licensing.bgcbc@blaenau-gwent.gov.uk

Cau Ffyrdd

Er mwyn cynnal parti stryd ar neu’n agos at briffordd, rhaid i chi ofyn a sicrhau caniatâd gan y Cyngor er mwyn medru cau’r stryd yn gyfreithlon i unrhyw draffig. Meddyliwch am yr hyn yr ydych am gyflawni a chyflwynwch y ffurflen gais erbyn 21 Ebrill 2023 i’r event.safety@blaenau-gwent.gov.uk.

Am gyngor pellach, cysylltwch gyda’r Adran Draffig ar 01495 355629.

Diogelwch Bwyd

Mae trin a thrafod bwyd mewn partïon stryd yn hanfodol ac mae mwy o wybodaeth ar gael ar  wefan y Llywodraeth. Dylid gofyn i bobl ddod ag unrhyw fwyd i’w rannu ar adegau penodol fel eich bod yn medru bwyta gyda’ch gilydd. Os ydych yn coginio gan ddefnyddio barbeciw, yna sicrhewch nad ydych yn gadael y barbeciw yn ddiofal gan ofalu nad yw plant ac anifeiliaid anwes yn medru mynd yn agos i’r man hwn.   

Am gyngor pellach, cysylltwch gyda’r Adran Iechyd Amgylcheddol ar 01495 357813 neu e-bostiwch environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk

Diogelwch yn y Digwyddiadau

Efallai eich bod am gynnal asesiad risg ar gyfer eich digwyddiad a’r mesurau atal Covid.  Am gyngor pellach ar drefnu digwyddiad, cysylltwch gyda’r  Event Safety Advisory Group.    Mae’r bygythiad gan derfysgaeth yn real, ac yn anffodus, mae’n anodd rhagweld beth sydd yn medru digwydd o fewn mannau cyhoeddus a phrysur sydd yn medru bod yn darged i derfysgwyr.   Hoffem i chi ystyried yr hyn y gallwch ‘chi’ ei wneud er mwyn lleihau’r risg a lliniaru effaith y fath ymosodiad. Rydym yn argymell felly eich bod yn cwblhau’r  ACT Awareness e-Learning ar wrth-derfysgaeth.

Os ydych chi’n bwriadu rhedeg digwyddiad bach neu gymunedol, mae rhai cyfrifoldebau sydd angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt. Bydd angen i chi feddwl am bwy fydd yn mynychu, pa gyfleusterau bydd eu hangen arnynt, pa fath o weithgareddau fydd yn digwydd ac unrhyw ofynion diogelwch.

Pwy sy’n gallu darparu cyngor?

Mae ESAG Blaenau Gwent (Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau) yn gallu helpu pobl gynllunio a threfnu digwyddiadau llwyddiannus, diogel i bobl o fewn Blaenau Gwent.

Mae’r Cyngor yn gweithio gyda’r Heddlu, Tân ac Achub, Ambiwlans ac eraill i gynnig cyngor a darparu cyfarwyddyd i unrhyw un sy’n cynllunio digwyddiad.

Rydym yn cynnig cyfarwyddyd ar arfer gorau er mwyn sicrhau bod y digwyddiad yn bodloni’r holl ofynion deddfwriaethol, cyfreithiol a gweithredol.

Gall y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau gynnig cyfarwyddyd ar:

  • Sut i gychwyn arni
  • Beth sydd angen i chi ei wneud
  • Â phwy i gysylltu am gyfarwyddyd arbenigol     

Y brif wybodaeth rydym ei angen gennych yw:

  • Pa fath o ddigwyddiad ydych chi’n ei gynllunio
  • Ble fydd yn digwydd
  • Pryd a ble fydd yn digwydd, dyddiad ac amser
  • Pwy fydd yn mynychu
  • Faint fydd yn mynychu
  • Pa gyfleusterau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich ymwelwyr. Mae hyn yn cynnwys toiledau, cymorth cyntaf, dŵr yfed a lluniaeth.
  • A yw’r digwyddiad ar gyfer grŵp penodol, megis plant, pobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn neu bobl anabl?
  • Oes angen unrhyw gyfleusterau penodol arnoch ar gyfer y grwpiau hyn?
  • Beth sydd angen i chi wneud i reoli torfeydd yn ddiogel?
  • A yw’r safle sydd gennych mewn golwg yn addas ar gyfer y nifer rydych yn disgwyl bydd yn mynychu
  • Efallai byddwn yn gofyn am wybodaeth arall, yn dibynnu ar fath y digwyddiad rydych yn cynllunio.

Y cynharaf y gallwch ddarparu’ch ffurflen yn ein hysbysu am eich digwyddiad, y gorau oll bydd ESAG yn gallu’ch cynghori.

Pethau sydd angen i chi eu hystyried:

  • Cynllun gweithredu a fydd yn cynnwys cynllun o’r safle ac asesiad risg
  • Cynllun argyfwng, iechyd a diogelwch, deddfwriaeth ac ymgyfreithiad
  • Cau ffyrdd, arwyddion, effeithiau arbennig, ac ati.
  • Diogelwch tân, stiwardio, darpariaeth feddygol, tai bach
  • Mynediad anabl, strwythurau dros dro
  • Mynediad i gerbydau brys, parcio ceir
  • Systemau sain / PA, bwyd a diod
  • Gwaredu ar sbwriel
  • Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus
  • Trwydded lleoliad neu Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro (TEN)
  • Eraill fel bo’n briodol (yn dibynnu ar fath y digwyddiad).

Faint o rybudd sydd angen ar y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau?

Y mwyaf o rybudd a dderbyniwn, y mwyaf o amser sydd gan gynllunwyr i drefnu’n effeithiol, yn enwedig os yw’r digwyddiad ar raddfa eang neu angen trwyddedau a/neu gau ffyrdd. Yn ddelfrydol, rydym angen ffurflen yn hysbysu am ddigwyddiad o leiaf 3 mis cyn mae’r digwyddiad i fod i ddigwydd.

Mae fel arfer yn cymryd hyd at 6 mis i drefnu digwyddiad bach hyd at 12 mis am ddigwyddiad mwy.

Cyfarfodydd y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau

Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd, ond gellir cynnal cyfarfodydd arbennig i drafod digwyddiadau mawr.

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Tîm Trefniadau Dinesig Wrth Gefn
Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad e-bost: event.safety@blaenau-gwent.gov.uk