Blaenau Gwent

Mae Blaenau Gwent yn lle o dreftadaeth ac o newid dramatig, gydag ymdeimlad o’i orffennol ond ei olygon am y dyfodol.

Yn ardal o ryw 10,900 o hectarau a gyda phoblogaeth o 68,400, mae Blaenau Gwent wedi ei rannu i 14 ward gwleidyddol, sydd yn cael ei gynrychioli gan 33 o aelodau etholedig.

Mae Blaenau Gwent wedi ei ddiffinio yn ffisegol gyda phen mynyddoedd diffaith hardd sydd yn rhannu ac yn gwylio dros y cymoedd dirgrynol a llawn ffwdan. Mae’r tair prif afon, y Sirhywi, yr Ebbw a’r Tyleri, yn llifo tuag at y De trwy’r trefydd a phentrefi sydd, i’r llygad anhyddysg, fel pe baent yn aml iawn yn llifo i mewn i’w gilydd. Peidiwch â gwneud camgymeriad, serch hynny, gan fod pob cymuned yn cadw ac yn cynnal ei gymeriad a’i draddodiadau ei hunan.

Er bod y trefydd yn rhoi ymdeimlad prysur trefol i’r fwrdeistref sirol, mae Blaenau Gwent mewn gwirionedd yn ardal wledig. Mae 45% o’r tir heb ei ddatblygu, ac mae’r rhan fwyaf helaeth o hwn wedi ei ddiffinio fel cefn gwlad agored. Lle bynnag i chi, nid yw’r cefn gwlad brydferth byth ymhell i ffwrdd, ac yn aml iawn bydd yn darparu’r olygfa.

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn ymdrechi i ddarparu cyfleusterau o safon uchel i’w drigolion er mwyn i bob person wella ei ansawdd o fywyd. 

Mae cyfleusterau hamdden wych ar gael drwy’r fwrdeistref sirol, yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleusterau: o weithgareddau awyr agored a chwaraeon dwr ym Mharc Bryn Bach uwchlaw Tredegar, i’r canolfan chwarae bowls yn Abertyleri; o’r Sinema Neuadd y Farchnad ym Mrynmawr - un o’r rhai prin hynny sydd dal yn cael ei weithredu gan awdurdod lleol - i Sefydliad Llanhilleth, sydd ar hyn o bryd yn cael ei ailwampio.
Mae rhwydwaith technoleg uchel o Ganolfannau Dysgu Gweithredol, cyfleusterau llyfrgell a ‘Digilabs’ yn darparu cyfleoedd addysgiadol a TG i bobl o bob oedran.

Mae Blaenau Gwent wedi profi llawer o fuddsoddiad adfywiad yn y blynyddoedd diweddar, ac mae yna lawer yn rhagor i ddod. Bydd prosiectau mawr fel ail agor rheilffordd Glyn Ebwy ac ail ddatblygiad yr hen safle gwaith haearn yng Nglyn Ebwy yn trawsffurfio arwynebedd y fwrdeistref.

Mae Blaenau Gwent yn newid yn gyflym o bwerdy'r gwaith diwydiannol trwm yr oedd  yn haeddiannol enwog amdano, i fod yn ardal ddeinamig economaidd gwyrdd a chyfoes, wedi ei gysylltu gan ffyrdd a rheilffyrdd i gyfleoedd masnachol y dyfodol, a thrwy dreftadaeth a chymuned i’w wreiddiau.