Cyfryngau Cymdeithasol

Cyfryngau cymdeithasu yw’r ffordd newydd i gyfathrebu a rhannu gwybodaeth ymhlith ffrindiau, teulu, a chydweithwyr ar-lein, yn ogystal â chwrdd â phobl gyda diddordebau tebyg.

Defnyddir safleoedd cyfryngau cymdeithasu yn rheolaidd gan filiynau o bobl dros y byd i gyd. Yn awr, gallwch gael hyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar y safleoedd canlynol: 

Facebook

Mae Facebook yn wefan cyfrwng cymdeithasol sy’n galluogi defnyddwyr i ymuno â rhwydweithiau a drefnir fesul dinas, gweithle, ysgol a rhanbarth, i gysylltu a rhyngweithio gyda phobl eraill. Gall pobl hefyd ychwanegu ffrindiau ac anfon negeseuon atynt, a rhoi diweddariadau ar eu proffil personol i roi gwybod i’w ffrindiau amdanynt.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar Facebook – Ymunwch i ddarllen porthiant newyddion, RSVP i ddigwyddiadau lleol, edrych drwy luniau a gwylio fideos.

Twitter

Mae Twitter yn wasanaeth rhwydweithio cymdeithasol a micro-blogio sy’n galluogi i’w ddefnyddwyr anfon a darllen diweddariadau defnyddwyr eraill (a adnabyddir fel trydar), sy’n negeseuon testun hyd at 140 o gymeriadau. Gall pobl gael mynediad at ddiweddariadau Twitter naill ai drwy wefan Twitter neu drwy amrywiaeth eang o raglenni a grëwyd yn benodol i weld trydar.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar Twitter - Newyddion diweddaraf, swyddi a digwyddiadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Vimeo

Mae Vimeo yn wefan rhannu fideo lle gall defnyddwyr lanlwytho, gweld, rhannu a rhoi sylwadsau ar bytiau fideo.

Edrychwch ar amrywiaeth eang o bytiau fideo gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

https://vimeo.com/search/sort:latest?q=Blaenau+Gwent

LinkedIn

LinkedIn yw’r prif gyfeiriadur proffesiynol ar-lein ar gyfer unigolion a chwmnïau. Mae unigolion yn defnyddio LinkedIn ar gyfer rhwydweithio proffesiynol, cysylltu a chwilio am swydd. Mae cwmnïau’n defnyddio LinkedIn ar gyfer recriwtio ac i roi gwybodaeth am gwmnïau i ddarpar gyflogeion.

Gall aelodau LinkedIn chwilio am swyddi, ymuno â grwpiau, ymchwilio cwmnïau a rhwydweitho gydag aelodau eraill. Gall cwmnïau roi gwybodaeth a rhestri swyddi ar dudalennau cwmni. Gall cwmnïau hefyd gysylltu ag aelodau LinkedIn ar gyfer dibenion recriwtio.

Blaenau Gwent County Borough Council on LinkedIn