Hyb Busnes Blaenau Gwent

Gwasanaeth ar-lein AM DDIM ar gyfer holl fusnesau Blaenau Gwent

Mae'r Hyb Busnes yn llwyfan digidol deallus newydd penodol ar gyfer busnesau cyfredol a busnesau newydd ym Mlaenau Gwent, gan alluogi busnesau i gysylltu gyda'i gilydd a darganfod cyfleoedd lleol.

Meysydd allweddol o'r Hyb:

  • Proffilio eich cwmni a'i wasanaethau a rhyngweithio gydag aelodau eraill yr Hyb
  • Chwilio ar-lein am gyflenwyr lleol yn defnyddio'r Cyfeiriadur Busnes
  • Chwilio am safleoedd a thir yn defnyddio swyddogaeth Chwilio am Eiddo
  • Y Newyddion diweddaraf a gwybodaeth am fusnesau lleol
  • Canfod Digwyddiadau i fusnesau lleol a chofrestru drwy'r Hyb
  • Mynediad i sefydliadau cymorth busnes drwy'r porth Cymorth
  • Rhyngweithio gyda busnesau lleol sy'n aelodau  o'r Hyb drwy'r Hysbysfwrdd (aelodau sydd wedi cofrestru)
  • Cyngor am ddim gan arbenigwyr lleol drwy ein hardal Mentora (aelodau sydd wedi cofrestru)
  • Cyflymydd Digidol SMART, mwy o wybodaeth

I ymuno â Hyb y gymuned fusnes ewch i www.blaenaugwentbusinesshub.co.uk neu gysylltu â'r Uned Datblygu Economaidd ar 01495 355700 neu e-bost business@blaenau-gwent.gov.uk