Fy Ngwasanaethau

I gyrchu Fy Ngwasanaethau, defnyddiwch borwr fel Chrome, Edge neu Safari. Ni fydd yn gweithio gydag Internet Explorer.

Mae Fy Ngwasanaethau ac ap symudol Blaenau Gwent yn ffordd rwydd i gysylltu â’r Cyngor.

Gallwch adrodd, gofyn am a thalu am wasanaethau’r Cyngor ar-lein 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Gallwch roi adroddiad am dwll yn y ffordd, golau stryd wedi torri, gwneud taliad neu wneud cais am le ar gyfer eich plentyn mewn ysgol feithrin.

 

Agor cyfrif

Mae cofrestru yn syml ac mae’n cymryd llai na 3 munud. Y cyfan rydych ei angen yw cyfrif e-bost.

Gallwch lawrlwytho ap Blaenau Gwent ar unrhyw ffôn clyfar yn defnyddio eich storfa ap berthnasol.

Ar ôl cofrestru, gallwch:

  • olrhain cynnydd popeth yr ydych wedi ei gyflwyno.
  • derbyn diweddariad ar eich adroddiadau a cheisiadau.
  • derbyn gwybodaeth ar y Newyddion Diweddaraf a Digwyddiadau.

Os ydych angen help

Os oes gennych unrhyw broblemau, defnyddiwch y ffurflen Help ac Adborth ar y lein neu ffonio’r Ganolfan Cyswllt ar 01495 311556.