Gorfodi Parcio Sifil

Gorfodi Parcio Sifil (GPS)

Bu Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn gweithredu ei Orchmynion Rheoleiddio Traffig ers 2019.

Nod Gorfodaeth Parcio Sifil yw:

  • Gwella llif traffig a diogelwch ffyrdd ar draws y Fwrdeistref Sirol
  • Gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy dibynadwy a gwella amserau teithio.
  • Gostwng camddefnydd baeau parcio i’r anabl a phreswylwyr.
  • Gostwng problemau parcio o amgylch ysgolion ac yng nghanol trefi.
  • Gwella mynediad a gostwng oedi ar gyfer cerbydau argyfwng.
  • Gwella mynediad i gerbydau dosbarthu.
  • Gwella amodau ar gyfer cerddwyr, seiclwyr a’r gymuned anabl.

Ers i Gyngor Blaenau Gwent weithredu toriadau parcio, bu cynnydd yn nifer ymholiadau a cheisiadau i’r Tîm Gorfodaeth Parcio Sifil ar gyfer gorfodaeth parcio ledled y fwrdeistref. Mae’r Tîm wedi paratoi rhestr o gwestiynau cyffredin i helpu cyfarch rhai o’r ymholiadau sydd ar gael yma;

Cwestiynau Cyffredin Gorfodaeth Parcio Sifil

Fodd bynnag, dylid nodi ar gyfer pob ymholiad yn ymwneud â Hysbysiad Tâl Cosb Parcio a gewch ym Mlaenau Gwent, y bydd angen i chi gysylltu â Grŵp Parcio De Cymru yn defnyddio un o’r opsiynau dilynol:

Ar-lein: www.swpg.co.uk

Post: SWPG, Blwch SP 112, Pontypridd, CF37 9EL

Ffôn: 03333 200867

*Edrychwch yn eich ffolderi post sbam rhag ofn i’r ymateb fynd yno

Cerbydau Gadawedig:

Dylid hysbysu Adran Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor am gerbydau gadawedig. Anfonwch e-bost at EnvironmentalHealthMailbox@blaenau-gwent.gov.uk gyda manylion y cerbyd, gwneuthuriad, model lliw a lleoliad (stryd a threfn).

Cerbydau Di-dreth:

Y DVLA sy’n ymwneud â cherbydau di-dreth. Os dymunwch ddweud fod cerbyd yn ddi-dreth, ewch i Report an untaxed vehicle - GOV.UK (www.gov.uk)  

Mae manylion pellach ar gael ar wefan www.gov.uk.