Cyngor Blaenau Gwent yn adolygu cynnydd ar Waith Gwella Priffyrdd

Bu Cyngor Blaenau Gwent ddoe yn trafod y cynnydd ar welliannau priffyrdd dros y 5 mlynedd ddiwethaf. Cefnogwyd opsiwn, pe byddai cyllid cyfalaf yn dod ar gael yn y dyfodol, y dylid symud ymlaen gyda rhaglen bellach o waith priffyrdd yn cynnwys ffyrdd ‘A’, ffyrdd preswyl blaenoriaeth uchel a strwythurau eraill cysylltiedig â phriffyrdd o fewn y fwrdeistref.

Ffyrdd Dosbarthiadol
Caiff y ffyrdd dosbarthiadol blaenoriaeth uchaf eu rhoi mewn trefn blaenoriaeth isod:
1. A467 Warm Turn – wyneb newydd ar y cerbytffordd - £75k
2. Stad Ddiwydiannol Tafarnaubach (Ffordd Uchaf – wyneb newydd - £175k
3. Cylchfan Stad Ddiwydiannol Blaenant - wyneb newydd - £75k
4. Bwa Mawr/Heol Gwaith Dur /Swyddfeydd Cyffredinol – wyneb newydd - £50k
5. A4046 – Heol Waun y Pound, Glynebwy - £25k
6. Heol y Coleg, Glynebwy - £100k

Ffyrdd Preswyl
Mae cyllid ar gael ar gyfer pum ffordd breswyl sydd â’r angen mwyaf o gael eu hatgyweirio - £350k.

Priffyrdd:
Gweithiau eraill cysylltiedig â phriffyrdd isod:
1. Rhwystrau diogelwch - £50k
2. Marcio ffyrdd, arwyddion a bolardau - £35k
3. Twmpathau cyflymder - £50k
4. Adolygu gorchmynnon traffig - £15k

Gallai’r opsiynau uchod amrywio yn dibynnu ar lefel y cyllid a all fod ar gael.

Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithrediaeth Lle ac Amgylchedd:
‘‘Roedd Rhaglen Gwaith Cyfalaf Priffyrdd 2017-222 yn llwyddiannus wrth wella safon ein rhwydweithiau ffordd ym Mlaenau Gwent. Os daw cyllid ar gael, mae gennym raglen o waith sy’n barod i fynd fydd yn cynnal a gwella ffyrdd dosbarthiadol, ffyrdd preswyl a’r seilwaith priffyrdd o fewn y fwrdeistref. Mae hyn yn bwysig i gymunedau lleol a hefyd i fusnesau ac ymwelwyr i Flaenau Gwent.”