Y Cyngor yn cofnodi gostyngiad pellach mewn tipio sbwriel yn anghyfreithlon

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn parhau’r frwydr yn erbyn tipio sbwriel yn anghyfreithlon ac wedi cofnodi gostyngiad pellach o 20% mewn digwyddiadau rhwng mis Ebrill a mis Medi eleni (2023) o gymharu gyda’r un cyfnod y llynedd. Mae hyn yn adeiladu ar ostyngiad o 28% a welwyd rhwng blynyddoedd 2020/21 a 2022/23.

Mae’r Cyngor wedi cynyddu ei ffocws ar ddal rhai sy’n tipio’n anghyfreithlon dros y ddwy flynedd ddiwethaf, drwy gyflwyno Tîm Gwasanaeth Gorfodaeth newydd a chriw tipio anghyfreithlon ymatebol yn Glanhau Strydoedd, ynghyd â goruchwyliaeth ragweithiol ar deledu cylch cyfyng. Mae hyn i gyd wedi golygu dull gweithredu mwy cydlynus ar draws yr awdurdod, a gynlluniwyd i ddal rhai sy’n parhau gyda’r drosedd wrth-gymdeithasol hon a gobeithio atal eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Lle ac Amgylchedd:

 “Mae’r dull gweithredu cymharol newydd yma at daclo tipio sbwriel yn anghyfreithlon yn amlwg yn dechrau cael effaith ac yn profi’n llwyddiannus wrth ddal y rhai sy’n gyfrifol. Byddwn yn parhau’r ymagwedd dim goddefgarwch yma i helpu cael gwared â’r ymddygiad gwrthgymdeithasol hwn o’n cymunedau, ac i ddal i gyfrif y lleiafrif sy’n amharchu yr amgylchedd lleol.”