Tosturi ar Waith: Blaenau Gwent yn cefnogi ymgyrch Gofal Cartref ‘Gofalwn Cymru’

Mae awdurdod lleol Blaenau Gwent yn falch i ymuno gyda ‘Gofalwn Cymru’ yn ei hymgyrch Gofal Cartref, cynllun cenedlaethol sydd â’r nod o godi statws y sector gofal cartref. Gan gydnabod rôl hanfodol darparwyr gofal cartref wrth wella bywydau unigolion mewn angen, rydym yn sefyll yn gadarn tu ôl i’r ymgyrch. Drwy ymgysylltu drwy ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a gwefan swyddogol, anelwn roi sylw i’r gyrfaoedd gwerth chweil ac ystyrlon sydd ar gael yn y sector gofal sector a dangos yr effaith gadarnhaol a gaiff ein awdurdod lleol ar fywydau aelodau bregus o’r gymuned.

Pam cefnogi Gofal Cartref gyda ni?

Dathlu Tosturi:

Ym Mlaenau Gwent, rydym yn dathlu ysbryd rhoi yn ôl. Mae eich cefnogaeth yn adleisio ein hymrwymiad i dosturi, gan adlewyrchu ein cred yng ngrym ewyllys da torfol. Drwy sefyll gydag ymgyrch Gofal Cartref ‘Gofalwn Cymru’, rydych yn cyfrannu at gymuned well a mwy gofalgar.

Ysbrydoli Newid:

Mae pob gweithred o garedigrwydd yn ysbrydoli newid. Mae eich anogaeth yn helpu eraill i weld gwerth enfawr y sector gofal cartref, gan feithrin ymdeimlad o undod a dealltwriaeth yn ein plith i gyd. Drwy gefnogi’r ymgyrch, rydych yn ysbrydoli ton newydd o gydymdeimlad a gofal.

Straeon i Godi’r Galon:

Gwahoddwn chi i ymchwilio straeon codi’r galon rhoddwyr gofal a chleientiaid fel ei gilydd. Mae’r straeon hyn o ymroddiad, gwytnwch a chysylltiad o’r galon yn ein hatgoffa am yr harddwch mewn cysylltiadau pobl â’i gilydd a’r effaith ddybryd y gall un person ei gael ar fywyd person arall.

Adeiladu Cymuned Ofalgar:

Ymunwch â ni i adeiladu cymuned sy’n gwerthfawrogi cydymdeimlad a gofal. Cysylltwch â’n llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ar Facebook, Instagram a Twitter, lle’r ydym yn rhannu straeon sy’n ysbrydoli ac yn dathlu gwaith anhygoel rhoddwyr gofal.

Defnyddiwch hashnodau #GofalwnCymru a #ArwyrGofalCartref i ymestyn neges yr ymgyrch.

Cofleidio Grym Undod!

Gwahoddwn chi i sefyll gyda ni i gefnogi ymgyrch Gofal Cartref ‘Gofalwn Cymru’. Mae eich anogaeth a’ch eiriolaeth yn siarad cyfrolau, gan gyfnerthu pwysigrwydd gofal cartref yn ein cymuned. Gyda’n gilydd, gadewch i ni gynyddu llais yr ymgyrch, gan feithrin diwylliant o ofal, dealltwriaeth a pharch at ein gilydd.

Sut y Gallwch Gyfrannu:

Rhannwch negeseuon yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ledaenu ymwybyddiaeth am effaith gadarnhaol gofal cartref. Anogwch eich ffrindiau a’ch perthnasau i ddysgu am yr ymgyrch a gwaith anhygoel gofalwyr cartref ym Mlaenau Gwent. Drwy fod yn fegwn cymorth, mae gennych rôl hanfodol wrth feithrin cymuned lle mae pawb yn teimlo yn werthfawr a’u bod yn cyfrif.

Diolch am fod yn rhan o’n cymuned ofalu. Gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth!