Tîm STEM Cyngor Blaenau Gwent yn cyrraedd rownd derfynol Cymru

Mae Cyngor Blaenau Gwent – Prosiect Hwyluso STEM wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau STEM Cymru 2023 ac wedi ei enwi yn un o’r 55 cwmni ac unigolion sydd ar y rhestr fer ar gyfer y Gwobrau, a gaiff eu noddi gan Brifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Mae Gwobrau STEM Cymru yn ôl am y trydydd tro i roi sylw i’r sefydliadau ac unigolion sy’n codi proffil Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yng Nghymru.

Unwaith eto bydd y Gwobrau yn dathlu’r rhai sy’n arwain y sector yng Nghymru gan gyfarch bwlch amrywiaeth STEM a’r prinder sgiliau, ynghyd â’r rhai sy’n ysbrydoli ac yn codi uchelgais y genhedlaeth nesaf.

Cydnabuwyd Blaenau Gwent yng ngwobrau eleni, y mae edrych ymlaen yn fawr amdanynt, fel canlyniad i’w ymrwymiad i wneud wahaniaeth i agenda STEM yng Nghymru ac mae ar y rhestr fer yn Rhaglen Addysgol STEM y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus) ynghyd â Tŷ Cwmnïau, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Wrecsam.

Caiff pawb sydd yn y rownd derfynol mewn cyfanswm o 13 categori eu hystyried gan banel blaenllaw o feirniaid, gydag enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn y seremoni wobrwyo yng Ngwesty Mercure Holland House ar 13 Hydref.

Dywedodd y Cynghorydd John C Morgan, Aelod Cabinet Lle ac Adfywio a Datblygu Economaidd:
“Mae’n gamp wych i gyrraedd y rownd derfynol ar gyfer gwobr mor bwysig. Mae’n cydnabod gwaith gwych Tîm STEM Blaenau Gwent, yn arbennig gyda chystadleuaeth mor rhagorol. Hoffwn ddymuno pob dymuniad da iddynt ar gyfer y rownd derfynol.”