Rhaglen Prentisiaeth Anelu’n Uchel Blaenau Gwent yn ennill Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig am Weithio Partneriaeth

Cafodd Rhaglen Rhannu Prentisiaethau Anelu’n Uchel ei chydnabod gan Academi Sgiliau Cymru am eu gwaith partneriaeth rhagorol dros y flwyddyn ddiwethaf a chyflwynwyd gwobr ‘Cydnabyddiaeth Arbennig am Weithio Partneriaeth’ iddynt. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo ar 7 Tachwedd 2023 yng Nghampws Castell-nedd Port Talbot Academi Sgiliau Cymru.

Mae’r wobr yn cydnabod gwaith partneriaeth dau neu fwy o ddarparwyr o fewn Academi Sgiliau Cymru neu gydweithio gyda rhanddeiliaid allanol. Mae hyn yn dangos effaith o fewn yr addysgu, dysgu ac asesiad sy’n gwella profiad dysgwyr a/neu yn ymateb i brinder sgiliau ac anghenion cyflogwyr.

Sefydlwyd Academi Sgiliau Cymru ym mis Hydref 2009 fel y bartneriaeth ddysgu seiliedig mewn gwaith gyntaf o’i bath yng Nghymru. Cafodd ei chreu mewn ymateb i heriau a amlinellwyd o fewn Agenda Trawsnewid Cymru ar gyfer Addysg Ôl-16. Roedd y bartneriaeth yn dod ynghyd ag ystod eang o ddarparwyr seiliedig ar waith rhagorol ac o’r un anian. Maent yn parhau i arwain ar yr heriau hyn drwy ledaenu’r opsiynau sydd ar gael ar gyfer pob dysgwr a gostwng dyblygu costus ar ddarpariaeth.

Ers 1 Awst 2010, bu’r Bartneriaeth yn gweithredu fel un cyswllt gyda Llywodraeth Cymru. Caiff hyn ei arwain gan Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot ar gyfer darparu rhaglenni dysgu seiliedig ar waith. Mae gan y Coleg un o’r comisiynau mwyaf gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu’r ystod ehangaf o brentisiaethau mewn dros 58 maes galwedigaethol, yn amrywio o Lefel 2 i 5.

Mae Academi Sgiliau Cymru yn darparu ar hyn o bryd mewn ardal ddaearyddol amrywiol iawn yn cynnwys Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen, Sir y Fflint, Wrecsam, Powys, Sir Fynwy, Casnewydd, Caerdydd a Bro Morgannwg.

Dywedodd Tara Lane, Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig:
“Mae’n gryn gamp i ennill y wobr hon sy’n cydnabod sut mae rhaglen Anelu’n Uchel yn cydnabod pwysigrwydd gwaith partneriaeth. Hoffwn longyfarch y tîm ar eu hymroddiad a’u hymrwymiad, yn arbennig pan y’u dewiswyd ymysg cynifer o bartneriaid rhagorol eraill o fewn grŵp partneriaeth Academi Sgiliau Cymru.”

Sefydlwyd Anelu’n Uchel Blaenau Gwent yn 2015 ac mae’r tîm o chwech aelod yn arbenigo mewn darparu prentisiaid ar gyfer busnesau gweithgynhyrchu a pheirianneg ym Mlaenau Gwent a Merthyr. Hyd yma, mae ganddynt record wych o 100% o brentisiaid yn cael eu cyflogi drwy’r rhaglen ar ôl cwblhau eu prentisiaethau. Cafodd tîm Anelu’n Uchel eisoes ei gydnabod am eu hymroddiad a record prentisiaid rhagorol yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2019 a 2021 pan wnaethant ennill y categori Cyflogwr Mawr y Flwyddyn.

Tîm Anelu’n Uchel yn union ar ôl iddynt gael eu cyflwyno gyda gwobr ‘Cydnabyddiaeth Arbennig am Weithio Partneriaeth’ yn y digwyddiad.