Plant ysgol lleol ac aelodau o’r gymuned yn plannu coed ar gyfer Canopi Gwyrdd y Frenhines

Mae Kelvyn Miller, gŵr busnes a dyn teulu sy’n byw yn lleol, wedi parhau gyda’i waith da o roi coed i ysgolion drwy gyfrannu coed cynhenid i gael eu plannu mewn gofod gwyrdd yn y gymuned leol – cae chwarae Pant y Fforest yng Nglynebwy.

Gwahoddwyd plant ysgol o ysgolion cynradd Trehelyg a Glyncoed, ynghyd â Dirprwy Raglaw Gwent, i gymryd rhan yn y cynllun unigryw i blannu coed i ddathlu Jiwbilî Platniwm Ei Mawrhydi yn 2022.

Bu grŵp cyfeillion Parc Nant y Waun (a drefnir gan Nicholas Beswick) hefyd yn brysur yn plannu ar gyfer Canopi Gwyrdd y Frenhines.

Mae’r coed yn gynhenid ac yn ogystal â nodi’r Jiwbilî Platinwm, mae ganddynt hefyd lawer o fanteision wrth atal effeithiau newid hinsawdd yn ogystal â buddion dydd i ddydd, darparu cynefinoedd (mae draenogod yn hoff iawn o ddail derw a ffawydd ar gyfer adeiladu nythod) a gwella ein iechyd meddwl. Bydd y coed hefyd yn cyfoethogi bioamrywiaeth yr ardal gan greu gweddol barhaus ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd ar Gyngor Blaenau Gwent:

“Mae llygaid y byd ar yr argyfwng hinsawdd a’r effaith a gaiff ar ein planed, a hefyd yr hyn sydd angen ei wneud i fynd i’r afael â’r mater yn cynnwys hyrwyddio bioamrywiaeth a’n hamgylchedd naturiol.

“Efallai mai dim ond cornel fach iawn o’r byd ydyn ni yma ym Mlaenau Gwent ond rydym yn bendant yn camu lan ac yn chwarae ein rhan yn y frwydr hon. Mae’n hollol hanfodol rhoi rhan i’n plant a phobl ifanc yn y gwaith hwn, a meithrin yr angerdd a’r dulliau y maent eu hangen i lwyddo. Diolch i Kelvin unwaith eto am ei haelioni mawr!”

Ymunodd Ben Herbert, Dirprwy Raglaw Gwent, â phlant ysgol lleol wrth blannu coed fel rhan o gynllun Canopi Gwyrdd y Frenhines. Dywedodd:

“Roedd yn bleser helpu plant ysgol lleol i blannu 250 o goed. Mae cynllun Canopi Gwyrdd y Frenhines yn un sy’n agos at galon Ei Mawrhydi. Rwy’n sicr y bydd y coed yn parhau i ffynnu a bod yn goffad parhaol o 70 mlynedd Ei Mawrhydi ar yr orsedd ac yn helpu i liniaru effaith newid hinsawdd”.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Merredith, Aelod Ward Glyncoed:

“Mae’n wych gweld ein cenhedlaeth ifanc yn cymryd rhan yng nghynllun Canopi Gwyrdd y Frenhines i ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines. Mae’r coed yn waddol barhaus am genedlaethau i ddod a hefyd yn helpu bioamrywiaeth lleol yr ardal drwy blannu rhywogaethau coed cynhenid fydd yn rhoi bwyd a chysgod.”

Ychwanegodd Nicholas Beswick:

“Mae gwirfoddolwyr Cyfeillion Parc Nant-y-Waun wrth eu bodd i weitiho gydag aelodau o’n cymuned i blannu coed a gyfrannwyd yn hael gan Coed Cadw ar gyfer Canopi Gwyrdd y Frenhines. Bydd y coed yn cyfoethogi’r Parc ar gyfer y gymuned a’i fywyd gwyllt, yn ogystal â helpu i atal newid hinsawdd.”