Mwy o fannau gwefru cerbydau trydan ar eu ffordd i Flaenau Gwent

Mae ymrwymiad Cyngor Blaenau Gwent i gynyddu nifer y mannau gwefru ar gyfer cerbydau trydan ledled y fwrdeistref yn mynd rhagddo’n dda. Mae gan gerbydau trydan yn sylweddol llai o allyriadau na cherbydau disel a phetrol. Yn y blynyddoedd cynnar, twf araf a welwyd yn y fwrdeistref wrth symud i gerbydau allyriadau isel iawn ond mae pethau’n cyflymu erbyn hyn a rydym yn gweld cynnydd cyson yn nifer y cerbydau allyriad isel iawn a drwyddedwyd ar draws Blaenau Gwent.

Sicrhawyd cyllid yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chynllun Mannau Gwefru ar Strydoedd Preswyl Llywodraeth y Deyrnas Unedig a gwelwyd eisoes gwblhau Cyfnod 1 o fannau gwefru gyflym 7kw a 22kw.

Cyfnod 1

Safle a gadarnhawyd Nifer mannau gwefru ym mhob safle Statws
Parc Bryn Bach
1 x 22kW (2 bays) Gosodwyd ac yn barod i’r cyhoedd eu defnyddio
Maes Parcio Heol Tyleri, Cwmtyleri 1 x 22kW (2 bays) Gosodwyd ac yn barod i’r cyhoedd eu defnyddio
Parcio a Theithio Gorsaf  2 x 7kW (4 bays) Gosodwyd ac yn barod i’r cyhoedd eu defnyddio
Reilffordd Llanhiledd 1 x 22kW (2 bays) Gosodwyd ac yn barod i’r cyhoedd eu defnyddio
Maes Parcio Cwm Terrace, Cwm 2 x 7kW (4 bays) Gosodwyd ac yn barod i’r cyhoedd eu defnyddio
Parcio a Theithio Parcffordd Glynebwy 1 x 22kW (2 bays) Gosodwyd ac yn barod i’r cyhoedd eu defnyddio
Maes Parcio gyferbyn â’r Swyddfeydd Cyffredinol Glynebwy 1 x 22kW (2 bays) Gosodwyd ac yn barod i’r cyhoedd eu defnyddio
Maes Parcio’r Swyddfeydd 1 x 22kW (2 bays) Gosodwyd ac yn barod i’r cyhoedd eu defnyddio
Cyffredinol ger Gorsaf Reilffordd Tref Glynebwy 2 x 7kW (4 bays) Gosodwyd ac yn barod i’r cyhoedd eu defnyddioe
Maes Parcio Sgwâr y Farchnad, Brynmawr 1 x 22kW (2 bays) Gosodwyd ac yn barod i’r cyhoedd eu defnyddio
Maes Parcio Stryd William, Cwm
Bach Park
1 x 7kW (2 bays) Gosodwyd ac yn barod i’r cyhoedd eu defnyddio

 

 

 

 

Cadarnhawyd mwy o gyllid bellach gan yr un sefydliadau partner a nodir uchod fydd yn galluogi dechrau ar Gyfnod 2 yn y dyfodol agos. Bydd y safleoedd hyn yn cynnwys:

Cyfnod 2

Safle a gadarnhawyd Nifer mannau gwefru ym mhob safle Statws
Maes Parcio Rhiw Briery, Glynebwy
1 x 22kW (2 bays) Yn disgwyl cysylltiad, mesurydd a chomisiynu
Maes Parcio Canolfan Iechyd, Abertyleri 1 x 22kW (2 bays) Yn disgwyl cysylltiad, mesurydd a chomisiynu
Maes Parcio Stryd Salisbury Isaf, Tredegar 1 x 22kW (2 bays) Yn disgwyl cysylltiad, mesurydd a chomisiynu
Maes Parcio Stryd Somerset/Stryd Worcester, Brynmawr 1 x 22kW (2 bays) Yn disgwyl cysylltiad, mesurydd a chomisiynu
Maes Parcio Stryd Arail, Six Bells 1 x 22kW (2 bays) Yn disgwyl cysylltiad, mesurydd a chomisiynu
Maes Parcio Stryd Mitre, Abertyleri 1 x 22kW (2 bays) Yn disgwyl cysylltiad, mesurydd a chomisiynu
Maes Parcio Sgwâr y Frenhines, Glynebwy 1 x 22kW (2 bays) Yn disgwyl cysylltiad, mesurydd a chomisiynu
Maes Parcio ger Stryd Canning, Cwm 1 x 22kW (2 bays) Yn disgwyl cysylltiad, mesurydd a chomisiynu
Maes Parcio Aml-lawr. Abertyleri
ry Hill car park, Ebbw Vale
2 x 22kW (4 bays) Aros am gadarnhad o ddyddiad dechrau'r gwaith

 

 

Dywedodd y Cyng Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet Lle ac Amgylchedd:


“Croesewir y cyllid pellach hwn i osod mwy o fannau gwefru cerbydau trydan ym Mlaenau Gwent. Mae cerbydau trydan yn rhan o’r datrysiad i helpu gostwng allyriadau a gwella ansawdd aer. Bydd y mannau gwefru ychwanegol yn helpu i greu Blaenau Gwent wyrddach a rhoi cyfleusterau gwefru mwy hygyrch.”

Mae’r gwaith o gyflwyno cynlluniau ar gyfer Cyfnod 3 yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd ac os ydynt yn llwyddiannus byddant yn darparu hyd yn oed fwy o fannau gwefru ledled Blaenau Gwent."