Mae Maethu Cymru Blaenau Gwent yn cefnogi deddf newydd Senedd Cymru ac yn annog pobl i faethu gyda’u hawdurdod lleol

Wrth i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â chynlluniau i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal, mae Maethu Cymru Blaenau Gwent yn tynnu sylw at fanteision maethu gydag awdurdod lleol.

Mae Cymru yn y broses o newid system gyfan ar gyfer gwasanaethau plant.

Mae’r newidiadau a gynigir yng nghytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn blaenoriaethu gwasanaethau sydd wedi’u lleoli’n lleol, wedi’u cynllunio’n lleol, ac sy’n atebol yn lleol.

O fewn y cynlluniau hyn mae ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal.’ Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, y bydd gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu ddielw.

Yng ngoleuni’r newidiadau hyn, mae Maethu Cymru Blaenau Gwent – y rhwydwaith sy’n cynrychioli 22 awdurdod lleol Cymru – yn galw am fwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth awdurdodau lleol ac yn annog y rhai sy’n maethu ar hyn o bryd gydag asiantaeth er elw i drosglwyddo i’w tîm awdurdod lleol.

Dywedodd y Cyng Hayden Trollope (Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Blaenau Gwent), “Mae’r newidiadau hyn yn annog cyfeiriad cadarnhaol ar gyfer dyfodol maethu yn lleol, sy’n galluogi pobl ifanc i aros yn eu cymuned leol lle maent wedi gwneud cyfeillgarwch parhaus ac y gallant aros mewn cysylltiad gyda phwy ydynt fel unigolyn.

“Mae gofalwyr maeth yn hanfodol i greu’r newid llwyddiannus hwn. Rwy’n gwahodd pawb sydd â diddordeb mewn gofalu ar gyfer pobl ifanc Blaenau Gwent i holi heddiw.”

Mae 79% o blant sy’n derbyn gofal gan asiantaethau maethu preifat yng Nghymru yn cael eu maethu y tu allan i’w hardal leol, a 6% yn cael eu symud allan o Gymru yn gyfan gwbl. Yn y cyfamser, mae 84% o’r rhai sy’n byw gyda gofalwyr maeth awdurdod lleol yn aros yn eu hardal leol eu hunain, yn agos i’w cartref, i’r ysgol, i deulu a ffrindiau.

Rhannodd Jane, a fu’n Ofalwr Maeth am dros 15 mlynedd gyda Maethu Cymru Blaenau Gwent, ei stori a soniodd am fanteision maethu o fewn yr awdurdod lleol:

“Roeddwn bob amser yn gwybod mod i eisiau helpu pobl ifanc oedd yn dibynnu ar y system gofal. Mae’n ddigon anodd i berson ifanc ddod i mewn i’r system gofal i ddechrau, a hyd yn oed yn anos pan mae’n rhaid iddynt addasu i fywyd newydd, lleoliad gwahanol ac anghyfarwydd.

“Bu maethu yn werth chweil, bythgofiadwy ac mae’n dod â’r holl gymuned at ei gilydd. Byddwn yn argymell unrhyw un sy’n ystyried maethu i holi gyda’ch awdurdod lleol. Gall plant gael eu cadw yn eu bro, cadw cysylltiadau a chael mynediad i wasanaethau cydnabyddedig. Bu’n anhygoel edrych ar wasanaethau lleol y gymuned yn mynd yr ail filltir ar gyfer fy mhlant maeth drwy’r blynyddoedd.”

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, a sut i drosglwyddo, ewch i: fostering@blaenau-gwent.gov.uk | https://maethucymru.llyw.cymru/eisoes-yn-maethu/