Llongyfarchiadau i'n holl ddisgyblion TGAU ym Mlaenau Gwent

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn llongyfarch ein holl ddisgyblion TGAU ar eu cyflawniadau heddiw.

Mae myfyrwyr ym mhob un o’n hysgolion uwchradd wedi cyflawni’n dda ar draws ystod eang o gymwysterau TGAU, ac unwaith eto mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud mewn sawl maes allweddol.

Ymwelodd yr Aelod Cabinet dros Bobl ac Addysg, y Cynghorydd Sue Edmunds a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro dros Addysg, Luisa Munro-Morris, â phedwar safle uwchradd y fwrdeistref i longyfarch disgyblion a diolch i staff a llywodraethwyr ysgolion.

Meddai’r Cynghorydd Sue Edmunds:

“Mae ein pobl ifanc ym Mlaenau Gwent unwaith eto wedi cyflawni’n wych ar draws ystod eang o bynciau. Bydd y disgyblion hyn wedi astudio drwy’r oes COVID-19 a’r heriau niferus i Addysg a ddaeth yn ei sgil, ac felly mae eu cyflawniadau heddiw hyd yn oed yn fwy rhyfeddol! Fodd bynnag, ni fyddent wedi gallu ei wneud heb ymroddiad a chefnogaeth staff yr ysgol a’u teuluoedd eu hunain, felly diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran.

“Mae ein hysgolion yn parhau i weithio’n galed i wneud yn siŵr bod ein pobl ifanc wedi’u paratoi’n dda ar gyfer cam nesaf eu taith ddysgu, beth bynnag fo hynny, a hoffem ddymuno’r gorau iddynt yn eu hymdrechion yn y dyfodol.”

 

Meddai’r Dr Luisa Munro-Morris, Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg ym Mlaenau Gwent:

“Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr ym Mlaenau Gwent ac ar draws rhanbarth Gwent. Mae’r gwaith partneriaeth agos rhwng ein hysgolion, y Gwasanaeth Cyflawni Addysg a’r Cyngor, gan gynnwys gwasanaethau cymorth, yn rhoi plant a phobl ifanc yn gadarn wrth galon ein holl waith a’n penderfyniadau. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ysgolion a dysgwyr yn parhau i gael eu cefnogi’n dda wrth iddynt symud ymlaen drwy’r system addysg yma ym Mlaenau Gwent.

Dymunaf bob lwc a dymuniadau gorau i’n dysgwyr ar gyfer y dyfodol.”