Lansio Hybiau Cymunedol ym Mlaenau Gwent

Bydd Cyngor Blaenau Gwent yn agor Hybiau Cymunedol newydd i gynnig mynediad i wasanaethau’r Cyngor yn nes at y cyhoedd yn y gymuned leol o ddydd Llun 21 Mehefin.

Bydd yr hybiau newydd mewn lleoliad canolog mewn llyfrgelloedd lleol a gaiff eu rheoli gan Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin a byddant yn rhoi cyngor a gwybodaeth ar amrywiaeth o wasanaethau’r Cyngor. Bydd yr hybiau yn agor am 1 diwrnod yr wythnos i ddechrau ym mhob cymuned oherwydd cyfyngiadau Covid presennol a bydd yr oriau agor a’r dyddiau gweithredu yn cynyddu wrth i’r cyfyngiadau lacio:

DiwrnodLleoliadOriau agor
Dydd LlunLlyfrgell Abertyleri10am - 4pm
Dydd MawrthSefydliad Llanhiledd10am - 4pm
Dydd MercherLlyfrgelloedd Glynebwy a Brynmawr10am - 4pm
Dydd IauLlyfrgell Tredegar10am - 4pm
Dydd GwenerLlyfrgelloedd Cwm a Blaenau10am - 4pm

Ar y dechrau gall preswylwyr gael mynediad i’r gwasanaethau dilynol yn yr Hybiau Cymunedol:

  • Gwybodaeth ar y Dreth Gyngor/Ardrethi Annomestig yn cynnwys disgownt, taliadau ac adennill
  • Gwybodaeth am Fudd-daliadau yn cynnwys Credyd Cynhwysol, gostyngiad Treth Gyngor, prydau ysgol am ddim, grantiau dillad ysgol a gor-daliad budd-daliadau
  • Gwneud cais am Fathodyn Glas
  • Mynediad i Wasanaethau Cymunedol – yn cynnwys archebu casgliadau gwastraff swmpus, amserlenni gwastraff/ailgylchu, trefnu ymweliadau HWRC ac archebu blychau ailgylchu
  • Nôl bagiau gwastraff – yn cynnwys gwastraff cŵn, gwastraff bwyd a gwastraff glanweithdra.

Cafodd yr hybiau eu cynllunio i ateb y galw gan breswylwyr ac maent yn rhan o adolygiad ehangach y Cyngor o gyflenwi gwasanaethau i gwsmeriaid wrth iddo anelu i wella ei gynnig hunanwasanaeth a digidol ar gyfer y rhai a all gyrchu gwasanaethau yn y ffordd hon.

Cafodd y cyfleusterau gwasanaethau cwsmeriaid oedd yn flaenorol ar gael yn y Ganolfan Ddinesig eu hatal ddechrau 2020 fel rhan o’r ymateb i bandemig Covid-19. Wrth lansio’r hybiau, gallwn yn awr gynnig mwy o ddewis a mynediad rhwyddach i wasanaethau i breswylwyr yng nghalon eu cymunedau.

Mae’n fwriad hefyd i ddatblygu’r amrywiaeth gwasanaethau sydd ar gael yn yr hybiau wrth i gyfyngiadau Covid-19 lacio yn ystod y flwyddyn. Yn y cyfamser, fel y gall preswylwyr gael mynediad i wasanaethau yn ddiogel, bydd y rheolau presennol ar bellter cymdeithasol a rheolau glanweithdra mewn grym i’r rhai sy’n ymweld â’r hybiau.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Daniels, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent:

‘Rwy’n falch y gallwn yn awr lansio’r hybiau cymunedol newydd yn ddiogel fel rhan o’n cynlluniau adferiad ar ôl Covid. Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o sefydliadau bu’n rhaid i ni gyfyngu mynediad i’r cyhoedd i adeiladau ers 2020.

Gwn fod preswylwyr yn gwerthfawrogi cysylltiad wyneb i wyneb i dderbyn y gwasanaethau sy’n bwysig iddynt ac mae’n wych fod yr amser yn iawn i ddod â’r dewis hwn yn ôl iddynt a dod â mynediad i wasanaethau yn nes at y cyhoedd. Mae hefyd yn bwysig fod gennym y dewis ehangaf bosibl o sianeli ar gael i breswylwyr yn ddulliau traddodiadol a hefyd yn ddigidol a byddwn yn parhau i ddatblygu ein gwasanaethau a gyflwynir drwy’r sianeli hyn fel rhan o’n strategaeth gwasanaethau cwsmeriaid.

Wrth i gyfyngiadau Covid lacio byddwn hefyd yn ehangu’r ystod gwasanaethau sydd ar gael ac yn cynyddu oriau agor yn yr hybiau.’

Dywedodd Phill Sykes, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin:

"Mae gwella bywyd y gymuned yn ganolog i bopeth a wnaiff Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin a bydd yr hybiau cymunedol newydd yn cynorthwyo’r Cyngor wrth roi cyngor ac arweiniad hanfodol i’r gymuned leol, mewn lleoliad cyfleus ar gyfer preswylwyr. Mae gan ein staff gyfoeth o brofiad wrth gynorthwyo gydag ymholiadau a bydd yn adnodd ychwanegol ar gyfer y llu o wasanaethau y mae’r hybiau cymunedol yn eu cynnig."