Gwobrau i Gydnabod y sector Fferylliaeth a chadwyni cyflenwi y GIG

Cynhaliodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent seremoni wobrwyo, Dydd Llun 3 Gorffennaf, i gydnabod cyfraniad cwmnïau lleol tuag at fferylliaeth a iechyd ar ben-blwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 75 oed.

Cynhaliwyd y seremoni yn PCI Pharma ar Stad Ddiwydiannol Tafarnaubach, Tredegar, cyflogwr mwyaf y sector ym Mlaenau Gwent. Cyflwynwyd gwobrau i 12 cwmni, llawer ohonynt ar flaen y gad mewn ymchwil a datblygu. Y cwmnïau a dderbyniodd wobrau oedd:

Apex Additive Technologies Cyf, i gydnabod eu harbenigedd mewn gweithgynhyrchu ychwanegion cydrannau metalig.
BioExtractions (Wales) Cyf, i gydnabod eu rhagoriaeth mewn alldynnu cyfansoddion allweddol a chefnogi’r diwydiant fferylliaeth.
Copner Biotech, i gydnabod cynhyrchu modelu cyfrifiaduron 3D a bioffabrigeiddio cenhedlaeth nesaf.
Eurocaps, i gydnabod eu harbenigedd yn ngwyddor gwneud gel meddal.
Freudenberg Performance Materials, a gyflwynir i gydnabod gweithgynhyrchu a datblygu deunyddiau i wasanaethu’r diwydiant gofal iechyd.
Frontier Medical Group, a gyflwynir i gydnabod eu cyfraniad i ofal ardal pwysedd.
Gwentec, am ddarparu gwasanaethau calibreiddio ac awtomeiddio i gwmnïau cysylltiedig â fferylliaeth.
Neem Biotech, am ymchwil a datblygu biotec fferyllol i atal ymwrthedd gwrthfacteria.
PCI, am ragoriaeth mewn datblygu a gweithgynhyrchu fferyllol.
PNR Pharma, am gyfrannu at ardystio treialon clinigol.
Elite Clothing Solutions, i gydnabod cyflenwi gwisgoedd i’r GIG.
• Rescue & Medical, am ddylunio a gweithgynhyrchu offer achub pwrpasol.

Cyflwynwyd copi o ddarlun Nathan Wyburn o Aneurin Bevan gan ddefnyddio plasebos fel cyfrwng i’r holl enillwyr.

Dywedodd y Cyng John Morgan, Aelod Cabinet Adfywio a Datblygu Economaidd,
‘Byddwn bob amser yn falch fod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi dechrau yma ym Mlaenau Gwent. Mae’r amrywiaeth o weithgynhyrchwyr, ymchwil a gwasanaethau sy’n cyfrannu at y sectorau fferyllol ac iechyd a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd gennym yma ym Mlaenau Gwent yn anhygoel. Dysgais drwy ymweliadau i’r cwmnïau gwych hyn, y gwaith rhagorol sy’n mynd rhagddo yn ein hunedau diwydiannol, o ddatblygu cyffuriau newydd i fodelu ac argraffu 3D sy’n cyfrannu cymaint at ein llesiant.'

Cafodd ymwelwyr i’r safle eu croesawu gan Rebecca Couts o PCI Pharma a ddywedodd,
'Mae’n anrhydedd gan PCI dderbyn y wobr hon, ac i gynnal y digwyddiad i anrhydeddu cyfraniad Blaenau Gwent i’r diwydiannau fferyllol a gofal iechyd. Mae PCI, gynt Penn Pharma, wedi gweithredu o’r safle hwn am dros 30 mlynedd, gan weithgynhyrchu ystod eang o feddyginiaethau yn cynnwys tabledi, capsiwlau, hylifau a therapïau nerthol iawn ar gyfer amrywiaeth o glefydau cymhleth.

Ar hyn o bryd cyflogwn dros 500 o staff o’r ardaloedd lleol, sy’n gweithio bob dydd i ddod â meddyginiaethau newid bywyd i gleifion ym mhob rhan o’r byd, a’n pobl yw’r rheswm ein bod yn parhau i lwyddo. Mae’n amser cyffrous i PCI, wrth i ni barhau i ehangu yn fyd-eang a buddsoddi yn ein pobl, ein cyfleusterau a’n galluoedd. Rydym bob amser yn edrych am y genhedlaeth nesaf o deithwyr talentog i’n helpu i dyfu ein busnes a gwaanaethu’r farchnad fferyllol fyd-eang, ac edrych ymlaen at yr hyn a all dod yn y dyfodol.’

Wrth gau, dywedodd y Cyng Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Lleol Blaenau Gwent:
‘Rydym yn falch tu hwnt o’r hyn a gyflawnwyd gan ein busnesau lleol. Maent yn darparu cyfleoedd cyflogaeth gwerthfawr yn ein cymuned, felly gall ein pobl ifanc weithio’n lleol heb fod angen symud bant. Mae ein tîm Datblygu Economaidd yma i’w helpu ar bob cam o ddechrau busnes i dyfu a datblygu. Gwyddom y bydd ein grant Datblygu Busnes newydd a’r Grant Menter Gymdeithasol ynghyd â’n grantiau Sefydlu Busnes a Kick Start Plus yn helpu busnesau lleol i dyfu a datblygu a denu entrepreneuriaid newydd i ymsefydlu yma ym Mlaenau Gwent.

Gwn y bydd pawb yma sy’n dathlu pen-blwydd ein GIG yn 75 oed yn defnyddio’r cyfle i rwydweithio, rhannu syniadau, gweithio mas sut y gallwn helpu ein gilydd a chwrdd yn fwy aml i hybu a thyfu’r clwstwr.’

Ychwanegodd Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi:
“Yn yr wythnos y dathlwn 75 mlynedd o’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol gwerthfawr, mae’n wych gweld rhai o brif gwmnïau gwyddorau bywyd Blaenau Gwent yn cael eu cydnabod am eu cyfraniad sylweddol.

Mae GIG Cymru mor werthfawr heddiw ag oedd yn 1946. Heddiw, caiff ei gefnogi gan sector gofal iechyd a fferylliaeth llewyrchus yng Nghymru, sydd wedi tyfu o’i amgylch.

O ymchwil a datblygu, i weithgynhyrchu nwyddau fferyllol ac offer hanfodol, i dreialon clinigol - mae gan y sector gwyddorau bywyd ym Mlaenau Gwent, man geni y GIG, rôl hollbwysig wrth gefnogi bywyd a llesiant pobl yng Nghymru ac ar draws y byd.

Fel rhan o’n gweledigaeth ar gyfer Cymru gryfach, decach a gwyrddach, mae Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i gefnogi’r sector hwn i dyfu a ffynnu hyd yn oed fwy. Drwy ein rhaglen Cymoedd Technoleg rydym yn gweithio gyda diwydiant i adeiladu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol gwyddorau bywyd ym Mlaenau Gwent i weithio yn swyddi y dyfodol.

Llongyfarchiadau i’r enillwyr gwobrau, a phen-blwydd hapus iawn yn 75 oed i’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol.’

Cyflwynwyd gwobrau i 12 cwmni, llawer ohonynt ar flaen y gad mewn ymchwil a datblygu.