Gweithiau celf i ddathlu pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 75 oed

Mae Blaenau Gwent yn ymfalchïo yn ei threftadaeth fel cartref y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Pan wnaed Aneurin Bevan, yr Aelod Seneddol lleol, yn Weinidog Iechyd a Thai defnyddiodd Gymdeithas Budd Meddygol Gweithwyr Tredegar fel y glasbrint ar gyfer y gwasanaeth a bydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed ym mis Gorffennaf.

Bwriedir cynnal 2 wythnos gyfan o ddathliadau, yn cynnwys cyfres o weithiau celf sy’n cadarnhau’r dreftadaeth hon ar draws y gymuned. Caiff y gweithiau celf eu datgelu bob dydd yn y cyfnod cyn y pen-blwydd a bydd yn dathlu arwyr lleol a gyfrannodd at ffurfio’r gwasanaeth hwn y mae pawb ohonom yn ei garu gymaint.

Dywedodd y Cynghorydd Stephen Thomas, Arweinydd ac Aelod Cabinet Corfforaethol a Pherfformiad Cyngor Blaenau Gwent:
‘Ffocws Gŵyl Bevan yn 2023 yw dathlu pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 75 oed. Mae’n dathlu un o arwyr mwyaf Cymru, Aneurin Bevan a’i dreftadaeth – y GIG.

Rwy’n falch fod y gwaith celf hwn yn cael ei ddatgelu yn ystod mis Gorffennaf i ddathlu’r rhodd wych hon i’n cenedl a hir oes i’r GIG wrth barhau í helpu’r rhai sydd fwyaf o’i angen.’

 

Aneurin Bevan

Cwblhawyd y cyntaf mewn cyfres o weithiau celf i ddathlu pen-blwydd y GIG, 29 Mehefin. Mae’r murlun mawr tu allan i Ganolfan Siopa Gwent, Tredegar, Blaenau Gwent yn darlunio Bevan fel Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi y byddai’n ‘Tredegareiddio’ y Deyrnas Unedig.

 
 
Thora Silverthorne

Cafodd yr ail mewn cyfres o weithiau celf i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 75 oed ei gwblhau a’i gyflwyno er cof am Thora Silverthorne, oedd yn hanu o Abertyleri ym Mlaenau Gwent.

Roedd yn un o’r cyntaf i gofrestru ar gyfer Pwyllgor Cymorth Meddygol Sbaen pan ddechreuodd Rhyfel Cartref Sbaen.

Mae’r murlun yn Stryd Alma, Abertyleri yn agos at y tŷ teras lle roedd Thora yn byw ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.
 
   
 

 
Darlun mewn Pils

Fel rhan o gyfres o weithiau celf i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 75 oed, mae’r artist enwog Nathan Wyburn wedi creu dehongliad unigryw o Aneurin Bevan, pensaer y GIG.

Comisiynwyd y darlun gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent gyda’r cwmni gweithgynhyrchu fferyllol lleol, PCI Pharma Services, yn cyflenwi detholiad o blasebos fel cyfrwng i Nathan weithio gydag ef.
 

 

 
Cerrig i Gofio
Fel rhan o gelfweithiau i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 75 oed, mae’r artist enwog Nathan Wyburn wedi creu darlun mawr mewn cerrig o Aneurin Bevan ar fryn uwchben Trefil, Tredegar.
 

 
Teyrnged mewn Ffotograffau ar Ben-blwydd y GIG yn 75 oed
Mae’r artist Nathan Wyburn o Lynebwy wedi creu celfwaith arbennig yn dathlu Pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 75 oed. Mae’r celfwaith yn un o gyfres a gomisiynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i ddathlu’r pen-blwydd pwysig hwn.

Defnyddiodd Nathan 130 o bortreadau o weithwyr lleol yn y sectorau Iechyd a Fferyllol i greu’r celfwaith. Tynnwyd ffotograffau o weithwyr yn Ysbyty Aneurin Bevan, y Ganolfan Frechu yn y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy, PCI Pharma yn Nhredegar a staff Blaenau Gwent yn paratoi ar gyfer y dathliadau. Mae’r ddelwedd yn seiliedig ar y logo a ddefnyddir i nodi Pen-blwydd y GIG yn 75 oed.