Gwasanaethau addysg y Cyngor yn gwneud cynnydd da

Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi croesawu adroddiad Estyn ar ei wasanaethau addysg sy’n dangos fod yr awdurdod wedi gwneud cynnydd da ers ei arolwg diwethaf ac y cafodd meysydd pwysig ar gyfer gwella eu cyfarch.

 

Cynhaliodd Estyn eu harolwg dros nifer o ddyddiau ddiwedd mis Tachwedd/dechrau Rhagfyr a chysylltu gydag ysgolion, plant a phobl ifanc, rhieni a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Mae’r adroddiad terfynol yn cydnabod ymroddiad cryf i addysg ymhlith uwch swyddogion a chynghorwyr; cynllunio da i sicrhau y caiff anghenion addysgol pob dysgwr eu cyflawni; twf addysg Gymraeg ac, yn galonogol, waith y Cyngor i gefnogi dysgwyr a theuluoedd agored i niwed yn y gymuned drwy ei agenda gwrth-dlodi a gwasanaethau cymorth ysgolion.

Mae meysydd a nododd Estyn ar gyfer gwella, yn cynnwys 3 argymhelliad. Mae’r Cyngor yn ymateb yn rhagweithiol i ganfyddiadau’r adroddiad, yn cynnwys sicrhau y caiff y weledigaeth a’r nodau ar gyfer addysg eu rhannu’n fwy eang a draws yr awdurdod; gwella hunanarfarnu, cynllunio strategol a rheoli perfformiad; a chyflymu gwelliannau mewn unrhyw ysgolion sy’n peri pryder.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Pobl ac Addysg Cyngor Blaenau Gwent:

“Croesawn adroddiad Estyn ar ein gwasanaethau Addysg, sy’n cydnabod y cynnydd a wnaed drwyddi daw a’n hymroddiad parhaus i ddarparu’r cyfleoedd addysgol gorau oll a dulliau llesiant i gyfoethogi cyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc.

“Rydym yn gweithio’n galed i barhau i wella ansawdd ein gwasanaeth ac yn benderfynol i symud ymlaen gyda’n gweledigaeth ar gyfer ‘Gwell Ysgolion; Gwell Dinasyddion; a Gwell Cymunedau’.

“Rydym yn cydnabod argymhellion yr arolygwyr ar sut y gallwn wella ymhellach ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar y gwaith da sy’n mynd rhagddo eisoes yn y meysydd hyn.”

Gallwch ddarllen adroddiad Estyn yn llawn yma.