Golff i Ddynion sy’n Gofalu

Cynigiodd Gwesty'r Celtic Manor ddwy rownd o golff i ofalwyr maeth awdurdod lleol Gwent fel rhan o Bythefnos Gofal Maeth.

Derbyniodd sawl gofalwr gwrywaidd y cynnig caredig hwn gan dreulio ychydig o oriau yn ymlacio ar y cwrs ar y Ffordd Rufeinig.

Mae awdurdodau lleol yn gwerthfawrogi eu holl ofalwyr maeth ond maent yn cydnabod bod cefnogaeth gan gymheiriaid yn bwysig, yn enwedig gan fod llawer o bobl yn dal i weld y rôl fel un fenywaidd yn draddodiadol.

O’n profiad ni gall pobl o lawer o wahanol gefndiroedd gynnig cariad, diogelwch a chartref hapus i blant a phobl ifanc.

I rai plant, gall gofalwyr maeth gwrywaidd fod y model rôl gwrywaidd cadarnhaol cyntaf yn eu bywydau a gallant chwarae rhan hanfodol wrth lunio eu dyfodol.

Pythefnos Gofal Maeth yw ymgyrch flynyddol y Rhwydwaith Maethu i godi proffil maethu ac i ddangos sut mae gofal maeth yn trawsnewid bywydau. Eleni, mae’n dechrau heddiw ac yn dod i ben ar 23 Mai. Y thema yw #PamRydymYnGofalu