Erlyn am Dipio’n Anghyfreithlon

Ar 20 Medi 2023 yn Llys Ynadon Cwmbrân, cafwyd y landlord Mr Andrew Jones o Chapel Orchard, y Fenni yn euog o 25 o wahanol droseddau gwastraff yn ymwneud â 5 digwyddiad o dipio anghyfreithlon ar draws y fwrdeistref.

Roedd hyn yn cynnwys achosi yn wybyddus i wastraff a reolir gael ei waredu o gerbyd modur, methiant i atal gwastraff a reolir rhag cael ei waredu heb awdurdod, methu atal gwastraff yn ei reolaeth rhag dianc, gwaredu yn wybyddus â gwastraff a reolir a methu yn ei ddyletswydd i sicrhau y cafodd disgrifiad ysgrifenedig o wastraff ei drosglwyddo pan gafodd gwastraff ei gyfnewid. Cafodd ddirwy o gyfanswm o £10,000 a dyfarnu iawndal o £780, gordal dioddefwr o £190 a chostau o £1503.11 i’r Awdurdod, cyfanswm o £12,473.11.

Mae’r diffynnydd wedi cyflwyno apêl i’r Llysoedd yn erbyn yr euogfarn.

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn parhau i weithredu’n gadarn yn erbyn pobl sy’n tipio’n anghyfreithlon, gan gyflwyno 120 o hysbysiadau cosb sefydlog yn werth cyfanswm o £48,000 i droseddwyr ers mis Hydref 2022.

Mae 13 achos arall ar y gweill drwy’r llysoedd ar gyfer troseddau yn cynnwys tipio anghyfreithlon, caniatau i wastraff ddianc o gerbyd a methiant i gydymffurfio gyda dyletswydd gofal masnachol.

Cafodd dros 104 o droseddau tipio anghyfreithlon eu dal yn defnyddio offer goruchwyliaeth teledu cylch cyfyng arbennig ers mis Hydref 2022.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet Lle ac Amgylchedd, y Cynghorydd Helen Cunningham:
'Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd a lle gallwn sicrhau tystiolaeth, byddwn bob amser yn erlyn yn y llys neu gyhoeddi Hysbysiad Cosb Sefydlog i’r rhai sy’n gyfrifol. Rydym yn cymryd y mater hwn yn ddifrifol tu hwnt. Nid oes unrhyw esgus dros dipio gwastraff yn anghyfreithlon, a byddwn yn parhau â’n hymagwedd dim goddefgarwch.

Yn yr achos hwn rydym yn falch fod y Llys wedi trin Mr Jones ac mae’r ddirwy a’r costau o dros £12,000 yn anfon neges glir i unigolion a busnesau fod yn rhaid iddynt weithredu’n gyfreithlon pan fyddant yn gwaredu â gwastraff neu wynebu’r canlyniadau. Mae’r erlyniad yn anfon neges glir na chaiff tipio anghyfreithlon ei oddef ym Mlaenau Gwent’.