Disgyblion yn mwynhau Bwyd a Hwyl

Mae pedair ysgol ym Mlaenau Gwent wedi cynnal rhaglen Bwyd a Hwyl arall lwyddiannus, gan gynnig gweithgareddau corfforol a phrydau a snaciau iach i’w disgyblion am 12 diwrnod yn ystod gwyliau’r haf.

Cymerodd tua 220 o blant ran yn y rhaglen eleni. Yr ysgolion a gymerodd ran oedd Ysgol Gynradd Gatholig yr Holl Seintiau, Ysgol Gynradd Willowtown, Ysgol Gynradd Glanhywi a Chymuned Ddysgu Abertyleri.

Mae Bwyd a Hwyl yn rhaglen seiliedig mewn ysgolion sy’n darparu prydau a snaciau iach yn ogystal ag addysg am faeth, gweithgaredd corfforol a sesiynau cyfoethogi i blant mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol yn ystod gwyliau’r haf. Cyllidir y cynllun gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’i chydlynu gan awdurdodau lleol ledled Cymru.

Cyflwynwyd Bwyd a Hwyl i helpu plant gyda’u hiechyd a’u lles meddyliol yn ystod gwyliau ysgol. Mae rhai plant yn profi arwahanrwydd cymdeithasol a diffyg ysgogiad deallusol, a geir fel arfer gan yr ysgol neu weithgareddau cyfoethogi teuluoedd.

Eleni mwynhaodd y disgyblion weithgareddau’n amrywio o wersi coginio, hyfforddiant cymorth cyntaf gan Ambiwlans Sant Ioan a, drwy weithio gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin, lu o weithgareddau chwaraeon yn cynnwys rygbi, Taekwondo, criced, dawns, pêl-rwyd a sglefrfyrddio. Caiff rhieni, brodyr a chwiorydd hefyd eu gwahodd i fynychu unwaith yr wythnos, sy’n galluogi staff i gysylltu gyda theuluoedd i ddysgu sgiliau newydd iddynt tebyg i goginio, gwella eu hiechyd a’u llesiant eu hunain a rhoi cefnogaeth hollbwysig i deuluoedd yn ystod gwyliau’r haf.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Pobl ac Addysg:

“Bu Bwyd a Hwyl yn llwyddiant enfawr ym Mlaenau Gwent, gyda dros fil o blant wedi cael budd o’r rhaglen ers 2018.

“Mae ansicrwydd bwyd yn broblem gynyddol ym Mhrydain ac ar draws Prydain. Yn ystod gwyliau ysgol gall rhai teuluoedd ei chael yn anodd fforddio neu gyrchu bwyd sy’n rhoi diet gytbwys iach. Mae rhai plant hefyd yn profi arwahanrwydd cymdeithasol a diffyg ysgogiad deallusol, a geir fel arfer gan ysgolion neu weithgareddau cyfoethogi teuluoedd, a gall hyn gyfrannu at ehangu’r bwlch cyrhaeddiad.

“Mae llawer o fanteision i gyflwyno Bwyd a Hwyl ym Mlaenau Gwent a ledled Cymru. Mae’r cynllun yn annog plant i fod yn fwy egnïol dros yr haf, yn dysgu plant am wneud dewisiadau iachach yng nghyswllt bwyd a diod, ac felly yn gwella diet a llesiant plant.

“Mae’r plant yn mwynhau’r cynllun yn fawr iawn ac mae’n ddechrau gwych i’w gwyliau haf. Rydym yn ddiolchgar iawn i staff yr ysgolion sy’n rhoi eu gwyliau i redeg a gweithio yn y cynllun ac i benaethiaid yr ysgolion am eu cefnogaeth barhaus yn cynnal y cynllun. Mae’r rhaglen yn mynd o nerth i nerth bob blwyddyn gyda mwy o ysgolion yn ymuno ar gyfer 2024.”