Digwyddiad Lansio Ailfrandio Prydau Cymunedol

Ar 6 Gorffennaf lansiwyd y Gwasanaeth Prydau Cymunedol ar ei wedd newydd ym Mlaenau Gwent yn cynnwys dadlennu eu cerbydau trydan a gyllidir yn rhannol drwy gyllid grant Llywodraeth Cymru.

Cafodd y gwasanaeth Prydau Cymunedol ei reoli o fewn adran Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor ers mis Ebrill 2020 ac mae’n darparu pryd twym bob dydd i dros 160 o oedolion bregus sy’n byw ym Mlaenau Gwent. Yn ogystal â’r prydau twym, gall y gwasanaeth ddarparu prydau wedi rhewi ar gyfer penwythnosau ac opsiynau te prynhawn bob dydd sy’n cynnwys teisennau cartref,  brechdannau ffres a salad. Bu nifer o newidiadau gweithredol yn y gwasanaeth ers 2020 wrth symud i wasanaeth mwy cynaliadwy. Mae’r tîm Opsiynau Cymunedol yn edrych yn barhaus ar opsiynau newydd i gefnogi ein cymunedau. Yn fwy diweddar mae wedi prynu 4 cerbyd trydan ar gyfer dosbarthu prydau fel rhan o strategaeth y Cyngor i ostwng allyriadau carbon.

Mae’r gwasanaeth wedi defnyddio cyflwyno’r cerbydau newydd i ddatblygu prosiect trawsgwricwlwm rhyng-genhedlaeth gyda dysgwyr blwyddyn 7 ac 8 o gampws Uwchradd Cymuned Ddysgu Abertyleri. Bu’r dysgwyr yn gweithio gyda staff yn y tîm Prydau Cymunedol i ddylunio a datblygu brandio a logo newydd y gwasanaeth yn cynnwys y dylunio ar y faniau newydd – gan sicrhau fod y faniau yn rhwydd eu hadnabod ar strydoedd Blaenau Gwent.

Daeth y dysgwyr hefyd draw i ymweld â’r gwasanaeth Prydau Cymunedol fel y gallent ddeall yn llawn weithrediad a phwysigrwydd maeth y prydau i oedolion bregus yn byw yn y fwrdeistref. Fe wnaethant hefyd dreulio amser gyda thîm Cludiant y Cyngor yn y Depot Canolog ym Mrynmawr yn dysgu am fanteision symud i gerbydau trydan ac effaith hynny ar yr amgylchedd. Mynychodd staff o’r gwasanaeth Opsiynau Cymunedol wersi yn yr ysgol a chwrdd gyda’r dysgwyr i gwblhau’r lluniau a gafodd eu dadlenni heddiw.

Yn y lansiad dywedodd y Cyng Haydn Trollop (Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol), “Mae’r gwasanaeth Prydau Cymunedol yn rhan bwysig o’r cymorth ataliol a gynigiwn i’r bobl fwyaf bregus sy’n byw yn ein cymuned, gan eu helpu i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r gyrrwr sy’n dosbarthu’r prydau bob dydd yn wyneb cyfeiilgar. Bu’n wych clywed am y gwaith rhyng-genhedlaeth rhwng Cymuned Ddysgu Abertyleri a Thîm Gwasanaethau Cymdeithasol Addysg Oedolion ac edrychaf ymlaen at weld y faniau newydd ar strydoedd Blaenau Gwent”.

Ychwanegodd Alun Davies , AS Blaenau Gwent: “Mae llawer o bobl ym Mlaenau Gwent yn dibynnu ar y gwasanaeth pryd ar glud ac mae Prydau Cymunedol yn cynnig gwasanaeth gwerthfawr iawn o brydau bwyd ffres, twym a maethlon i’r rhai sydd eu hangen. Mae bob amser yn galonogol gweld cymuned Blaenau Gwent yn cydweithio ac rwy’n cymeradwyo ailfrandio gwych Prydau Cymunedol gan ddysgwyr Cymuned Ddysgu Abertyleri. Ynghyd â chyflwyno’r cerbydau trydan newydd, mae Prydau Cymunedol yn enghraifft wych o sut y gallwn ofalu am ein cymuned mewn modd cynaliadwy.”

Os oes gennych chi neu aelod o’ch teulu ddiddordeb mewn canfod mwy am y cymorth y gall y gwasanaeth Prydau Cymunedol ddarparu neu fanylion y cymorth, gallwn gynnig helpu pobl i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain yn cynnwys datrysiadau technoleg gynorthwyol/larymau Lifeline, yna cysylltwch â thîm Gwybodaeth Cyngor a Chymorth Gwasanaethau Oedolion ar 01495 315700.