Mae’r Warant i Bobl Ifanc yn rhaglen uchelgeisiol gan Lywodraeth Cymru sydd â’r nod o gynnig gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunan-gyflogaeth i bawb dan 25 oed yng Nghymru.
Gall y Warant i Bobl Ifanc helpu pobl ifanc 16-25 oed i gael mynediad i’r gefnogaeth angenrheidiol a’u helpu i gyflawni eu nod o fewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.
Cynhelir digwyddiad Canfod eich Dyfodol yng Nghanolfan Chwaraeon Glynebwy ddydd Iau 6 Hydref, 10am i 3pm, lle bydd nifer o sefydliadau ar gael i gefnogi unrhyw un dan 25 oed gyda chymorth i gymryd y camau nesaf i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.
Fodd bynnag, mae’r digwyddiad hwn yn agored i bobl o bob oed o Flaenau Gwent.
Mae cludiant am ddim ar gael o bob rhan o Flaenau Gwent.
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Carl Bainton ar 01495 304352 neu Liam Thomas ar 0785493748.