Cyrtiau tennis parc Blaenau Gwent yn ailagor ar ôl eu hadnewyddu

  • Mae dau gwrt tennis parc ym Mlaenau Gwent wedi ailagor yn swyddogol ar ôl gwaith adnewyddu a gafodd ei reoli gan y Gymdeithas Tennis Lawnt (LTA) a’i gyllido gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, Sefydliad Tennis LTA a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.
  • Mae’n rhan o’r buddsoddiad mwyaf erioed mewn cyfleusterau tennis parc ar draws Prydain gyda miliynau o bunnau yn mynd i drawsnewid dros 2000 cwrt
  • Agorwyd y cyrtiau yn swyddogol mewn digwyddiad yn Six Bells

Mae cyrsiau tennis parc ym Mlaenau Gwent wedi ailagor yn swyddogol ar ôl gwaith adnewyddu o £37,516.70, a gafodd ei reoli gan yr LTA a’i gyllido gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Sefydliad Tennis LTA a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Cynhaliwyd seremoni ailagor yng nghyrtiau tennis Parc Six Bells, sydd ymysg y rhai a fanteisiodd o’r buddsoddiad, gyda Alun Davies AS, Dirprwy Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent Cyng Helen Cunningham a chynghorwyr lleol yn bresennol, ynghyd â chynrychiolwyr o’r LTA. Roedd cyfle i bobl o’r gymuned leol i afael mewn raced a mynd ar y cwrt am amrywiaeth o sesiynau tennis.

Drwy’r Prosiect Tennis Parc mae’r LTA yn cyflwyno’r buddsoddiad mwyaf erioed mewn cyfleusterau tennis parc ar draws Prydain, a ddefnyddiwyd i drawsnewid dau gwrt yn yr ardal leol, gan roi hwb sylweddol i gyfleusterau chwaraeon.

Cafodd y cyrtiau ym Mharc Six Bells eu hadnewyddu i sicrhau eu bod yn hyfyw am flynyddoedd i ddod a gellir yn awr archebu cyrtiau ar-lein. Caiff miloedd o gyrtiau tennis parc presennol mewn cyflwr gwael eu hadnewyddu dan y rhaglen hon ar draws Prydain er budd cymunedau, gan roi cyfleoedd hanfodol ar gyfer plant ac oedolion i fod yn actif.

Yn ogystal â sesiynau tenis parc wythnosol am ddim, gydag offer wedi’i ddarparu, bydd y cyrtiau newydd yn cynnal Cynghreiriau Tennis Lleol, gan roi cyfle i bobl gymryd rhan mewn cystadlaethau lleol cyfeillgar a chymdeithasol.

Gellir archebu pob cwrt drwy wefan yr LTA. Mae systemau archebu newydd a thechnoleg mynediad clwyd yn golygu ei bod yn awr yn rhwyddach cael cwrt drwy archebu ymlaen llaw i warantu bod lle ar gael. Gellir prynu pas blynyddol i aelwyd am £39, ac mae pas blynyddol myfyrwyr yn costio £19. Mae talu-a-chwarae yn costio £4.50 yr awr – bydd ffioedd bach yn sicrhau y caiff y cyrtiau eu cynnal ar eu safon uchel newydd am flynyddoedd i ddod. Bydd yr LTA a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cydweithio i sicrhau fod sesiynau tennis parc am ddim ar gael ar y cyrtiau gan roi cyfleoedd rheolaidd i unrhyw un godi raced a chwarae.

Dywedodd y Cyng Helen Cunningham, Aelod Cabinet Lle ac Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Gymdeithas Tennis Lawnt (LTA) a grwpiau cymunedol lleol am eu cefnogaeth wrth wella cyrtiau tennis Parc Six Bells. Bydd yr adnewyddu hwn yn rhoi cyfleoedd i’r gymuned leol ac ehangach i chwarae tennis ar ba lefel bynnag ac mewn cyfleusterau ansawdd uchel.”

Dywedodd Julie Porter, Prif Swyddog Gweithredu yr LTA:

“Ar ôl misoedd o waith caled, rydym yn falch iawn gweld cyrtiau tennis parc ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn ôl ar agor i’r cyhoedd, ac mewn cyflwr gwell nag erioed.

“Mae cyrtiau tennis cyhoeddus yn gyfleusterau mor hanfodol i gadw’n heini a rydym eisiau i gynifer o bobl ag sydd modd, o bob oedran a gallu, i godi raced a mwynhau chwarae tennis. Diolch i’r buddsoddiad hwn, caiff y gamp ei hagor i fwy o chwaraewyr, am flynyddoedd i ddod.”

Meddai Stuart Andrew AS, Gweinidog Chwaraeon:

“Rydym yn ymroddedig i sicrhau mynediad cyfartal i chwaraeon sydd mor bwysig ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol y genedl.

“Mae’r Llywodraeth a’r LTA yn cydweithio i adnewyddu miloedd o gyrtiau ar draws Prydain Fawr, gyda chefnogaeth £30 miliwn o fuddsoddiad yn cynnwys yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

“Bydd y cyfleusterau tennis gwell hyn ym Mlaenau Gwent yn rhoi cyfleoedd hwyl i’r gymuned leol i fod yn actif ac efallai ddod yr Andy Murray neu Emma Raducanu nesaf”.