Cyngor i Safleoedd gyda Thrwydded Alcohol cyn ail-agor arfaethedig ardaloedd awyr agored ddydd Llun 26 Ebrill 2021.

Disgwylir y bydd lletygarwch awyr agored yn ailagor yng Nghymru o ddydd Llun 26 Ebrill. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau’r gofynion hyd yma, ond maent yn debyg o fod yn wahanol i ofynion yfed awyr agored blaenorol.

Os mai dim ond gwerthu ar y safle yn unig y mae trwydded safle yn ei ganiatáu, mae Deddf Busnes a Chynllunio 2020 wedi llacio’r gyfraith i ganiatáu gwerthu oddi ar y safle dros dro tan 30 Medi 2021.

Yn ychwanegol caniateir i chi gyflenwi alcohol mewn cynwysyddion agored a dosbarthu alcohol i gyfeiriad arall. Fodd bynnag, mae rhai eithriadau felly os oes gennych unrhyw amheuaeth holwch ein Tîm Trwyddedu os gwelwch yn dda a byddant yn hapus i gynnig cyngor.

Nid yw’r llacio yn weithredol i safleoedd sydd â thystysgrif safle clwb, felly, os mai dim ond gwerthiant yn y safle a dim ardal awyr agored sydd wedi’i gynnwys fel rhan o’ch tystysgrif, efallai na allwch ddarparu alcohol i’w yfed yn yr awyr agored. Unwaith eto, holwch ein Tîm Trwyddedu os gwelwch yn dda.

Mae mwy o fanylion ar y llacio ar gael yn:

https://www.gov.uk/government/publications/guidance-for-temporary-alcohol-licensing-provisions-in-the-business-and-planning-bill/alcohol-licensing-guidance-on-new-temporary-off-sales-permissions

I gydymffurfio gyda gofynion gofod awyr agored, dylai unrhyw safle sy’n bwriadu defnyddio pebyll neu strwythurau awyr agored sicrhau eu bod o leiaf 50% ar agor pan gânt eu defnyddio.

Os ydych yn ansicr p’un ai all eich safle ail-agor yn ddilys o 26 Ebrill gallwch gysylltu â’r tîm trwyddedu yn licensing@blaenau-gwent.gov.uk i gael mwy o gyngor.

Yn neilltuol, dylai Safle Clwb sydd â Thystysgrif Safle Clwb (CPC) gysylltu â’r Tîm Trwyddedu i gadarnhau y gallant agor ar y dyddiad hwn neu os bydd yn rhaid iddynt aros am ail-agor dan do.