Cyngor Blaenau Gwent yn llongyfarch Myfyrwyr Safon Uwch

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn llongyfarch myfyrwyr Safon Uwch y fwrdeistref ar eu llwyddiant heddiw ac yn estyn y dymuniadau gorau iddynt ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet y Cyngor dros Bobl ac Addysg:
“Ar ran y Cyngor hoffwn ddweud ‘da iawn chi’ enfawr wrth ein myfyrwyr Safon Uwch gwych heddiw. Mae canlyniadau’r Hafan Dysgu unwaith eto yn galonogol iawn ac mae’n hyfryd gweld ein disgyblion ôl-16 yn cyflawni eu potensial ac yn dilyn y llwybrau gyrfa o’u dewis.

“Diolch i’r holl weithwyr proffesiynol ym maes addysg sy’n ymroddedig i helpu ein pobl ifanc i gyflawni, a diolch i deuluoedd y myfyrwyr sydd hefyd yn rhan hanfodol o’r llwyddiant hwn. Gobeithiaf y byddwch i gyd yn cael hwyl yn dathlu!”

Ym Mlaenau Gwent mae myfyrwyr Safon Uwch yn mynychu’r Hafan Dysgu. Darllen mwy – https://www.coleggwent.ac.uk/cy/news/results-day-2023