Cyngor ar y targed gyda pherfformiad ar wastraff ac ailgylchu

Mae Blaenau Gwent unwaith eto wedi cyflawni ei dargedau blynyddol ar wastraff ac ailgylchu. Dengys adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Craffu Lle heddiw i Blaenau Gwent gyflawni cyfradd ailgylchu o 66.71%, sy’n uwch na’r targed a osodwyd gan Lywodraeth Cymru o 64%. Mae hyn yn rhoi Cyngor Blaenau Gwent yn y 9fed lle drwyddi draw yng Nghymru ar gyfer 2022-23 o gymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.

Mae ein perfformiad ailgylchu yn parhau i gefnogi Cynllun Corfforaethol y Cyngor gyda’r flaenoriaeth o ‘Ymateb i’r argyfwng natur a hinsawdd a galluogi cymunedau cysylltiedig’, sef cynyddu cyfradd ailgylchu a chyflawni targedau cenedlaethol. Yn gyffredinol mae’r ffigurau a nodir yn yr Adroddiad Perfformiad Gwastraff ac Ailgylchu 2022-23 yn addawol iawn ar gyfer y dyfodol ac ar y targed i gyrraedd y ffigur ailgylchu o 70%, a osododd Llywodraeth Cymru ar gyfer Awdurdodau Lleol erbyn 2024-25.

Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Lle ac Amgylchedd:
“Hoffwn ddiolch i breswylwyr Blaenau Gwent am barhau i groesawu ailgylchu i helpu cyrraedd y gofynion targed a osodwyd gan Lywodraeth Cymru sef ailgylchu 70% erbyn 2024-25. Gallwn i gyd wneud gwahaniaeth ac mae pob unigolyn sy’n ailgylchu’r holl wastraff a fedrant yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.”