Cynghorau Balch yn Parêd Pride Cymru

Daeth cynghorau o bob rhan o Dde a Chanolbarth Cymru at ei gilydd ddydd Sadwrn 17eg 2023 i gymryd rhan yng ngorymdaith flynyddol Pride Cymru yng Nghaerdydd.

Cynghorau Balch yn Parêd Pride Cymru

Roedd yr orymdaith yn un o'r rhai mwyaf hyd yma. Roedd yn ddathliad gweledol ysblennydd o gydraddoldeb ac amrywiaeth. Gadawodd yr orymdaith eleni o Stryd y Castell am 11.00am cyn mynd i lawr y Stryd Fawr a Heol Eglwys Fair, ar hyd Lôn y Felin a thrwy’r Aes, yna trodd i lawr Heol y Frenhines, i Blas y Parc ac yn olaf Heol y Brodyr Llwydion cyn gorffen yn Ffordd y Brenin.

Rhwydwaith o awdurdodau lleol yw ‘Cynghorau Balch’ sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod llywodraeth leol yng Nghymru yn gynghreiriad gweladwy i bobl LGBTQ+ ac yn chwarae ein rhan i gynnal hawliau pobl LGBTQ+. Fel aelod o'r rhwydwaith, mae Cyngor Blaenau Gwent wedi ymrwymo i hyrwyddo cynhwysiant LGBTQ+ yn ein gweithluoedd a'n cymunedau.

Roeddem yn falch bod y Cynghorydd Diane Rowberry yn bresennol ar gyfer yr orymdaith ynghyd â chynrychiolwyr eraill o ardaloedd Awdurdodau Lleol eraill.

Y Cynghorydd Diane Rowberry yn cefnogi’r Orymdaith Pride yn cynrychioli’r “Cynghorau Balch”.