Cyflwyno Rhyddid y Fwrdeistref Sirol i’r Lleng Brydeinig Frenhinol

Cafodd Rhyddid Anrhydeddus Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ei gyflwyno heddiw i’r Lleng Brydeinig Frenhinol gan gydnabod gwaith elusennol ymroddedig canghennau lleol.

Gan gwrdd ychydig dros wythnos cyn y caiff Sul y Cofio ei nodi ar draws y Deyrnas Unedig, roedd yn fraint i aelodau etholedig Cyngor Blaenau Gwent dderbyn y Lleng Brydeinig Frenhinol yn Rhyddfreinwyr y Fwrdeistref Sirol yn yr hyn sydd hefyd yn flwyddyn canmlwyddiant y sefydliad.

Dywedodd y Cynghorydd Brian Thomas, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Blaenau Gwent:

“Rhyddid y Fwrdeistref yw’r anrhydedd uchaf y gall Cyngor Blaenau Gwent ei rhoi, ac rydym yn hynod falch i fanteisio ar gyfle Canmlwyddiant y Lleng Brydeinig Frenhinol i gydnabod gwaith ymroddedig gwirfoddolwyr dirifedi mewn canghennau lleol ym Mlaenau Gwent dros flynyddoedd lawer.

“Mae’r anrhydedd hwn yn adlewyrchu cefnogaeth gref cymunedau yma ym Mlaenau Gwent i’r Lluoedd Arfog. Mae llawer o ddynion a menywod Blaenau Gwent wedi bod yn falch i wasanaethu, mae’r dyfarniad hwn yn cydnabod gwaith rhagorol y Lleng Brydeinig Frenhinol dros flynyddoedd lawer i’w cefnogi nhw a’u teuluoedd.

“Diolch i bawb a gymerodd ran am eich ymrwymiad a’ch gwaith caled.”

Roedd Anthony Metcalfe, Rheolwr Ardal y Lleng Brydeinig Frenhinol yng Nghymru yn falch iawn i dderbyn yr anrhydedd mewn seremoni rithiol heddiw.

Dywedodd Mr Metcalfe:

“Ym mlwyddyn canmlwyddiant ffurfio’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn 1921, mae’n fraint fawr y cafodd Rhyddid Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ei gyflwyno i’r Lleng Brydeinig Frenhinol.

“Mae hyn yn arwydd o’r berthynas leol gref sy’n bodoli rhwng y ddau sefydliad ac yn dangos yr ymroddiad a’r gwasanaeth diflino a roddodd aelodau a gwirfoddolwyr y Lleng yn y gymuned ar draws y fwrdeistref am y 100 mlynedd ddiwethaf.”

Mae’r Cyngor a changhennau lleol y Lleng Brydeinig Frenhinol wedi cydweithio ers blynyddoedd lawer i gefnogi’r gymuned Lluoedd Arfog ym Mlaenau Gwent, yn cynnwys drwy Grŵp Llywio Cyfamod Lluoedd Arfog Blaenau Gwent, i sicrhau fod aelodau presennol a chyn aelodau’r lluoedd arfog a’u teuluoedd yn cael y gefnogaeth a’r parch a haeddant.

Mae’r sefydliadau’n cydweithio ar ddigwyddiadau Cofio, yn cynnwys y rhaglen flynyddol reolaidd a digwyddiadau mwy tebyg i raglen BG yn Cofio yn 2018 ar gyfer Canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu gan ganghennau lleol rôl allweddol mewn digwyddiadau tebyg i Orymdaith Ailddatgan Rhyddid y Fwrdeistref ar gyfer catrawd Cymreig Brenhinol, a threfnu gweithdai gydag Uwch Gyngor y Plant i helpu addysgu plant a phobl ifanc.

Mae dyfarnu Rhyddid y Fwrdeistref hefyd yn cydnabod yr amser a’r egni, yn ogystal â’r gefnogaeth ariannol, y mae llawer ym Mlaenau Gwent yn ei rhoi i’r Apêl Pabi a digwyddiadau eraill codi arian sy’n helpu i godi miliynau o bunnau bob blwyddyn i gefnogi’r gymuned lluoedd arfog.

Mae gan y Lleng Brydeinig Frenhinol ganghennau lleol yn Abertyleri, Beaufort, Blaenau, Brynmawr, Cwm, Glynebwy, Rasa a Thredegar.