Cydnabod ysgolion am eu gwaith gyda Phlant sy’n Derbyn Gofal

Llongyfarchiadau i Ysgol Gyfun Tredegar ac Ysgol Gynradd Ebwy Fawr a ddaeth yr ysgolion cyntaf i ennill ein Nod Ansawdd Ysgolion Cyfeillgar i Blant sy’n Derbyn Gofal.

Mae’r cynllun hwn yn anelu i hyrwyddo arfer da o fewn ysgolion a lleoliadau addysgol am waith gyda disgyblion sydd yng ngofal yr Awdurdod Lleol. I ennill y nod ansawdd, mae angen i ysgolion ddangos tystiolaeth o’u harferion cyfeillgar i Blant sy’n Derbyn Gofal, a ddilysir drwy ymweliadau i’r ysgol a gwrando ar ddysgwyr a staff.

Cyflwynwyd placiau i’r ysgolion i gydnabod eu llwyddiant.