Clinig Brechu Cerdded-i-Mewn Glynebwy ar gyfer Dosau Cyntaf

Ddydd Sadwrn 29 Gorffennaf bydd clinig brechu galw-heibio yng Nglynebwy ar gyfer unrhyw un dros 18 oed nad yw wedi derbyn dos cyntaf brechiad COVID am ba bynnag reswm.

Bydd y clinig galw-heibio yn y Swyddfeydd Cyffredinol rhwng 8.30am a 1.30pm, a bydd brechiadau Pfizer ac AstraZeneca ill dau ar gael. Nid oes angen apwyntiad.

Bydd angen i chi fod yn byw neu fod wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan (Gwent) neu’n gweithio i Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Gofynnir i chi ddod â dogfen adnabod berthnasol sy’n cadarnhau hyn gyda chi.

Cyfeiriad llawn y clinig:

Swyddfeydd Cyffredinol Blaenau Gwent
Heol Gwaith Dur
Glynebwy
NP23 6AA

I gael mwy o wybodaeth am ddarparu brechiadau yng Ngwent a rhai cwestiynau cyffredin ewch i - https://bipab.gig.cymru/coronafeirws/brechlyn-ar-gyfer-covid-19/