Casglu Cardfwrdd

Yn dilyn y pandemig Coronafeirws, pan fu llawer o bobl yn gweithio gartref a chau Canolfannau Gwastraff Cartrefi ac Ailgylchu (HWRC) y Cyngor, gwelodd y Cyngor gynnydd sylweddol yn faint o gardfwrdd yr oedd preswylwyr yn ei roi allan i gael ei gasglu ar ochr y palmant. Yn unol gyda chyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol i ddelio gydag effeithiau’r pandemig, defnyddiodd yr Awdurdod adnoddau ychwanegol i gasglu’r cardfwrdd ychwanegol/swmpus yma.

Ers hynny cafodd holl gyfyngiadau’r pandemig eu dileu, yn cynnwys ail agor dwy HWRC y Cyngor yn Roseheyworth a New Vale, heb gyfyngiadau, ynghyd â thynnu’r cyllid ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru. Oherwydd hynny mae’r Cyngor wedi gorfod penderfynu tynnu’r cerbyd yr oedd yn ei ddefnyddio’n ddyddiol i gasglu cardfwrdd ychwanegol/swmpus a dim ond casglu cardfwrdd a gyflwynir yn y “sach cardfwrdd” arbennig a gyflenwir gan y Cyngor. Cafodd y penderfyniad hwn ei ddangos yng nghyllideb yr Adran oedd ar gael ar gyfer casglu gwastraff ac ailgylchu. Dylid hefyd nodi ym mwyafrif yr achosion nad oedd y cardfwrdd ychwanegol/swmpus a gasglwyd gan y cerbyd ychwanegol yn cael ei dorri i lawr ac na fyddai’n ffitio i’r adran arbennig ar gyfer cardfwrdd ar gyfer cerbydau casglu ailgylchu.

Yn unol â’r uchod, o hyn ymlaen ni fydd criwiau ond yn casglu cardfwrdd a gafodd ei dorri lawr a’i roi yn y sach arbennig ar gardfwrdd a ddarparwyd gan y Cyngor. Os ydych angen mwy o “sachau cardfwrdd” gallwch ofyn amdanynt drwy Fy Ngwasanaethau Cyngor neu ffonio C2BG ar 01495 311556.

I gael gwybodaeth ar sut i ailgylchu’n gywir, ewch i’r ddolen ddilynol:
https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/resident/waste-recycling/how-to-recycle-correctly/