Bydd Café’r Stute yn Sefydliad Blaenau

Mae Opsiynau Cymunedol Gwasanaethau Cymdeithasol Blaenau Gwent yn falch iawn i gyhoeddi y caiff eu menter arlwyo ddiweddaraf ei lansio yr wythnos hon gydag agor caffe cymunedol newydd yn Institiwt Blaenau. Gan weithio mewn partneriaeth gyda Blaina Community Community Institute Cyf., bydd y tîm Gofal Cymdeithasol, sy’n rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, yn cefnogi oedolion gydag anableddau i sicrhau lleoliadau o fewn y Café fel rhan o’u cynnig gweithgaredd dydd – gan roi cyfle i fyfyrwyr arlwyo i ddatblygu sgiliau bywyd, cymdeithasol a gwaith ar gyfer y dyfodol o fewn byd arlwyo a lletygarwch.

Blaina Institute

Mae’r fenter gyffrous hon wedi rhoi cyfle i ni weithio gyda grŵp cymunedol yn y Blaenau fel y gallwn roi bywyd newydd i un o adeiladau hanesyddol Blaenau Gwent ynghyd ag arddangos talentau arlwyo staff o fewn Gofal Cymdeithasol ac yn bwysig gynnig lleoliadau gwaith gwerthfawr ar gyfer y rhai sy’n defnyddio ein cefnogaeth. Mae’r cynllun hwn wedi adeiladu ar y gwaith datblygu a wnaethom eisoes o fewn Gwasanaeth Prydau Cymunedol Blaenau Gwent, lle’r ydym yn cynnig te prynhawn a snaciau ysgafn ar gyfer eu dosbarthu gyda chiniawau traddodiadol ar gyfer y bobl hynny na all baratoi eu prydau bwyd eu hunain.

Ychwanegodd Cyng Trollope – Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol -  ‘Rwy’n hynod falch i weld y Cyngor a phrosiectau partneriaeth cymunedol o fewn Gofal Cymdeithasol. Mae’r ffordd hon o weithio yn hollbwysig wrth roi cyfle i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol i ddatblygu sgiliau bywyd, ynghyd â chynyddu eu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. Gobeithio mai hwn fydd y cyntaf o lawer o brosiectau tebyg ym Mlaenau Gwent. Ni allaf aros i weld y Café a blasu eu teisennau bendigedig.’

Bydd Caffi Stute yn Sefydliad y Blaenau yn cynnig cynnyrch cartref blasus bedwar diwrnod 4 diwrnod yr wythnos – dydd Mawrth i ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm ac archebion olaf ar gyfer tecawê 3.40pm.

Sefydliad Blaenau, Stryd Fawr, Blaenau, NP13 3BN

Dewislen