Llywodraethwyr Ysgolion

Llywodraethwyr Ysgolion

Trefniadau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Caiff trefniadau Cyrff Llywodraethwyr pob ysgol ym Mlaenau Gwent eu comisiynu drwy’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS) drwy Gytundeb Lefel Gwasanaeth. Fodd bynnag, mae un eithriad: Corff Llywodraethwyr Cymuned Ddysgu 3-16 Ebwy Fawr lle maent yn gyfrifol am strwythur cynhwysfawr eu Corff Llywodraethu.

Mae hyn yn golygu y caiff pob Llywodraethwr Ysgol neu glercio cyfarfodydd Corff Llywodraethu ysgolion ei wneud gydag EAS a’r ysgol unigol. Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn dod yn Llywodraethwr Ysgol, gellir cysylltu ag EAS yn governor.support@sewaleseas.org.uk

 

Beth mae llywodraethwyr yn ei wneud?

  • Mynychu cyfarfodydd, pwyllgorau ac efallai gymryd rhan mewn gweithgorau bach o bryd i’w gilydd
  • Ymweld â’r ysgol
  • Bod â rôl gyswllt i faes o waith yr ysgol, e.e. Llythrennedd
  • Cymryd rhan ym mhenderfyniadau’r corff llywodraethu
  • Dilyn hyfforddiant a datblygiad

Pam dod yn llywodraethwr ysgol?

  • Cyfrannu at addysg drwy gefnogi’r gymuned ysgol, helpu i godi safonau addysg a sicrhau fod pobl ifanc yn cael y deiliannau gorau posibl
  • Datblygu sgiliau presennol a dysgu sgiliau newydd
  • Cwrdd â phobl newydd a chydweithio i gefnogi’r gymuned ysgol
  • Ennill gwybodaeth o’r system addysg

Pwy all fod yn llywodraethwr ysgol?

  • Gall unrhyw un dros 18 oed sydd â diddordeb yn yr ysgol, yr hyn sy’n digwydd mewn addysg a’r gymuned leol fod yn llywodraethwr ysgol.
  • Mae angen ymrwymiad amser ar gyfer y rôl, felly oes oes gennych ddiddordeb mae angen i chi ystyried faint o amser y byddwch ei angen i fynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu a chyfarfodydd pwyllgor.

Beth yw manteision bod yn llywodraethwr ysgol?

  • Cael rôl weithgar yn sicrhau fod disgyblion yn yr ysgol yn cael yr addysg orau bosibl
  • Rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned
  • Hyfforddiant a chefnogaeth i’ch helpu i gyflawni eich dyletswyddau
  • Sgiliau newydd a all fod yn ddefnyddio mewn man arall – gwaith tîm, cynllunio ariannol a strategol, recriwtio a sgiliau cyfweld.

Beth ddylwn i wneud nesaf i ddod yn llywodraethwr?

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn llywodraethwr ysgol, yna eich pwynt cyswllt cyntaf ddylai fod yr ysgol lle hoffech fod yn llywodraethwr a llenwi’r ffurflen gais isod.

 

Neu gellid gofyn am gyngor gan yr Adran Addysg neu drwy gysylltu â’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn governor.support@sewaleseas.org.uk

Gwybodaeth Gyswllt

I gael mwy o wybodaeth ewch i wefan EAS http://www.sewales.org.uk/

I gysylltu ag aelod o’r Tîm Cymorth Llywodraethwyr cysylltwch â:                                    E-bost: governor.support@sewaleseas.org.uk  (Gwasanaethau Cymorth Llywodraethwyr)

Ffôn: 02920-753685 (Llywodraethwyr Cymru)

E-bost: Support@governors.cymru

Gwefan: www.governors.cymru