Rhaglen Gwella Cynhyrchiant Busnes Blaenau Gwent

Rhaglen Gwella Cynhyrchiant Busnes Blaenau Gwent

Gweledigaeth Rhaglen Gwella Cynhyrchiant Busnes Blaenau Gwent yw creu canolfan lewyrchus ac o'r radd flaenaf ar gyfer uwch-dechnoleg a fydd yn cynnwys cwmnïau gweithgynhyrchu Cymreig o bob maint sy'n cynrychioli sawl is-sector allweddol, gan gynnwys bwyd, a chreu swyddi sy'n heriol, sy'n rhoi boddhad ac sy'n uchel eu bri.

Bydd Rhaglen Gwella Cynhyrchiant Busnes  Blaenau Gwent yn annog BBaCh sy'n cyflogi mwy na 10 o bobl i wneud y canlynol:

  • Diogelu eich busnes at y dyfodol drwy fod yn fwy effeithlon,
  • Cyflwyno technoleg newydd,
  • Amrywio eich cwsmeriaid,
  • Datblygu cynhyrchion newydd.

Yn dilyn archwiliad diagnostig AM DDIM o gynhyrchiant eich cwmni, bydd pecyn cymorth cynhwysfawr yn cael ei gynnig. Bydd y pecyn cymorth yn amrywio o gymorth gweithredu ymarferol, datblygu sgiliau, ymchwil a datblygu, allforio, CYMORTH GRANTIAU ar gyfer gwariant cyfalaf ac unrhyw ymyriadau arbenigol eraill sydd eu hangen.
 
Os hoffech chi gael gwybod sut y gallai eich busnes chi fanteisio ar y cymorth sydd ar gael gan y Cymoedd Technoleg, cadwch eich lle chi drwy e-bostio Ceri.Davies3@gov.wales

Taflen