Safleoedd a Thir Busnes

Mae gan y Cyngor ddetholiad ardderchog o safleoedd a thir masnachol, yn amrywio mewn maint ac ansawdd i weddu pob math o fusnes. 

Mae hyn yn cynnwys portffolio helaeth o eiddo yn cynnwys dros 180 uned ar draws 16 stad. 

Mae gennym hefyd nifer o safleoedd datblygu o fewn yr ardal mewn perchnogaeth gyhoeddus a phreifat, gyda nifer ohonynt yn manteisio o statws Parth Menter.

 

Sut i wneud cais am uned busnes y mae Cyngor Blaenau Gwent yn berchen arni

Mae'r Llawlyfr Tenantiaid yn nodi popeth sydd angen i chi wybod am osod un o'n hunedau busnes.

Gellir cynnal chwiliad tir neu eiddo drwy wefan Hyb Busnes Blaenau Gwent.  Cliciwch ar y ddolen ddilynol https://www.blaenaugwentbusinesshub.co.uk/PropertySearch.aspx i chwilio am eiddo ac i gofrestru.

Byddwn yn cydnabod derbyn eich cais yn ddiogel o fewn 5 diwrnod gwaith. Cysylltwch â ni ar 01495 355700 os gwelwch yn dda os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Asiantau

Mewngofnodwch neu gofrestru gyda'r Peilot Eiddo i lanlwytho neu ddiweddaru manylion eiddo.