Sero Net 2030

Sero Net 2030

Mae allyriadau sero net yn golygu tynnu’r un maint o CO2 o’r atmosffer â’r hyn rydym yn ei ryddhau iddo. Mae uchelgais Sero Net 2030 yn ymwneud â’n hallyriadau sefydliadol (ein hôl troed carbon) ac mae’n cynnwys yr holl allyriadau o’n hadeiladau a’n cerbydau, a hefyd allyriadau sy’n deillio o wneud y pethau rydym yn eu prynu ac o sefydliadau eraill sy’n darparu gwasanaethau ar ein rhan.

Mabwysiadwyd ein Cynllun Datgarboneiddio ym mis Medi 2020 ar yr un pryd ag y gwnaethom ddatgan argyfwng hinsawdd. Mae’r cynllun yn mynd i’r afael â’n hallyriadau carbon sefydliadol gyda’r nod o gyfrannu’n llawn at yr uchelgais o gael sector cyhoeddus sero net yng Nghymru erbyn 2030.

Ein Dull Gweithredu

Arweinyddiaeth Gyhoeddus

Rydym wedi ymrwymo i arwain gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd ar draws Blaenau Gwent. Credwn fod yr arweinyddiaeth hon yn dechrau trwy fynd i’r afael â’r effaith y mae ein gweithrediadau ein hunain yn ei chael ar yr hinsawdd. Rydym eisoes yn cymryd nifer o gamau cadarnhaol, ond rydym yn cydnabod yr angen i gynyddu ein hymdrechion drwy ddull corfforaethol systematig o ddatgarboneiddio’r awdurdod. Mae ymateb i’r argyfwng hinsawdd yn un o’r pedair blaenoriaeth yn ein Cynllun Corfforaethol 2022-2027. Yn 2022, fe wnaethom hefyd benodi ein Hyrwyddwr Hinsawdd cyntaf, y Cynghorydd Sonia Behr.

Dull a Lywir gan Ddata

Rydym wedi mabwysiadu dull a lywir gan ddata, yn seiliedig ar nodi, o’n hôl troed carbon, wyth trawsnewidiad y mae’n rhaid inni eu cyflawni i gyrraedd sero net. Mae pob un o’r trawsnewidiadau hyn yn faes gweithredu cydlynol gyda’i dechnolegau carbon isel, modelau busnes a seilwaith unigryw. Mae gan bob un o’r trawsnewidiadau hyn ei gamau manwl ei hun i’w gyflawni (gweler ein cynllun am ragor o fanylion).

Adroddiad Blynyddol

Rydym yn cynhyrchu adroddiad blynyddol ar gynnydd ein Cynllun Datgarboneiddio, gan gynnwys adrodd ar ein hôl troed carbon. Mae holl adroddiadau blaenorol ar gael yma:

Adroddiad Sero-Net 21/22