Cynllun Datgarboneiddio 2020 i 2030

Mae ein Cynllun Datgarboneiddio yn nodi sut rydym yn bwriadu cyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru i’r sector cyhoeddus yng Nghymru fod yn garbon niwtral erbyn 2030.

Rydym wedi ymrwymo i arwain datgarboneiddio ar draws Blaenau Gwent. Credwn fod yr arweinyddiaeth hon yn dechrau trwy fynd i’r afael ag effaith ein gweithrediadau ein hunain ar yr hinsawdd. 

Sail ein cynllun yw asesiad cynhwysfawr o effaith garbon ein gweithrediadau, gan gynnwys cyfrifo ein hôl troed carbon.

Mae'r cynllun yn nodi naw llwybr pontio ac yn cynnwys data a chrynodebau sy’n nodi heriau allweddol ar gyfer pob llwybr.

Bydd y cynllun hefyd yn helpu i sicrhau bod datgarboneiddio yn cael ei ymgorffori yn ein cynlluniau tymor hir i wella llesiant ym Mlaenau Gwent.

I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn gweithredu ar newid hinsawdd cliciwch yma

Dogfennau Cysylltiedig