Pa Gefnogaeth Sydd ar Gael

Mae dyletswydd gyfreithiol ar Wasanaethau Cymdeithasol Blaenau Gwent i ddarparu amrediad o wasanaethau i blant a phobl ifanc sydd angen cefnogaeth a/neu eu hamddiffyn. Creda’r Awdurdod Lleol mai’r lle gorau i blentyn fyw yw gyda’u teulu. Rydym yn ceisio cyflawni hyn trwy weithio gyda theuluoedd ac asiantaethau eraill i ddarparu cyngor, cyfarwyddyd a chefnogaeth i blant a’u teuluoedd. Mewn rhan achosion, efallai nad yw’n bosib i blentyn fyw gyda’u teulu, pan mae dyma’r sefyllfa, bydd gofyn i’r Llys benderfynu a ddylai’r awdurdod lleol ofalu am y plentyn.

Plant mewn angen?

Mae dyletswydd ar yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau i blant sydd mewn angen. Gall hyn gynnwys: 

Sut ydych chi’n gwybod os yw’ch plentyn mewn angen?

Fel rhiant neu ofalwr, mae gennych gwell wybodaeth am eich plentyn nag unrhyw berson arall. Fodd bynnag efallai bydd angen cymorth arnoch yn penderfynu os oes gan eich plentyn anghenion penodol, gall ymwelydd iechyd, doctor, athro, gweithiwr cymdeithasol neu berson proffesiynol arall eich helpu gyda hyn.

Sut bydd angen eich plentyn am wasanaethau yn cael ei benderfynu?
Bydd asesiad yn cael ei gynnal i adnabod anghenion plant a’u teuluoedd pan dderbynnir atgyfeiriad gan Wasanaethau Cymdeithasol sy’n nodi y gallai plentyn fod ‘mewn angen’ o gefnogaeth neu angen eu hamddiffyn.

Pa wasanaethau sydd ar gael o’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol?

  • Cyngor a Chyfarwyddyd: Bydd Gwasanaethau Cymdeithasol yn ceisio darparu gwybodaeth gyffredinol a chyngor i blant a’u teuluoedd. Gallai hyn gynnwys darparu manylion am asiantaethau neu weithwyr proffesiynol eraill sy’n cynnig cymorth i blant a’u teuluoedd.
  • Cefnogaeth a Chymorth: Yn dilyn yr asesiad cychwynnol a chraidd (gwelwch y daflen ‘Asesu Plant mewn Angen a’u Teuluoedd), bydd cyfarfod yn cael ei gynnal sy’n cynnwys y teulu a’r gweithwyr proffesiynol hynny sydd â chyswllt â’r teulu er mwyn datblygu cynllun. Bydd y cynllun yn helpu adnabod pa wasanaethau bydd asiantaethau’n darparu ar gyfer teulu. mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn gallu darparu cefnogaeth a chyfarwyddyd cyffredinol yn y cartref ar gyfer teuluoedd neu ofyn i NCH Cymru neu sefydliadau gwirfoddol eraill i ddarparu cefnogaeth ar eu rhan.
  • Plant anabl: Darperir gwasanaethau ar gyfer plant ag anawsterau corfforol neu ddysgu gyda’r nod o leihau effaith yr anabledd a rhoi cyfle i’r plant arwain bywydau sydd mor normal â phosib. Yn ychwanegol at y gwasanaethau eraill ar gael i blant, gellir darparu offer i gynorthwyo gyda bywyd dydd i ddydd yn dilyn asesiad anghenion. Rhaid i’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol gadw cofrestr o blant anabl. Byddwch yn cael gwybodaeth am y gofrestr a fydd yn caniatáu i chi benderfynu a ydych eisiau i’ch plentyn fod ar y gofrestr ai peidio. Ni fydd peidio â bod ar y gofrestr yn effeithio ar hawliau’ch plentyn i dderbyn gwasanaethau.
  • Plant sy’n Derbyn Gofal:  Mae Gwasanaethau Cymdeithasol bob tro’n ceisio cefnogi teuluoedd i aros gyda’i gilydd. Fodd bynnag, mae achlysuron pan fod angen i blant dderbyn gofal i ffwrdd o’u rhieni. Pan mai dyma’r sefyllfa, bydd Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio gyda chi i geisio dod o hyd i ofal arall gyda theulu’r plentyn, os nad yw hyn yn cael ei ystyried fel opsiwn addas, gall y plentyn gael ei osod gyda gofalwyr maeth neu mewn lleoliad preswyl.
  • Mabwysiadu:   Fel Asiantaeth Fabwysiadu gofrestredig, mae Gwasanaethau Cymdeithasol Blaenau Gwent yn darparu gwasanaeth fabwysiadu gynhwysfawr i bawb sydd wedi’u heffeithio gan fabwysiadu. Mae hyn yn cynnwys recriwtio, asesu a pharatoi teuluoedd mabwysiadol a gweithio’n agos gyda’r Awdurdod Lleol ac asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol i sicrhau bod ‘partneriaid’ addas yn cael eu canfod ar gyfer y plant hynny sydd angen tai mabwysiadol. Yn ogystal â darparu gwasanaethau ar gyfer y plentyn, mae cyngor, cynghori a chefnogaeth yn ymwneud â materion mabwysiadu ar gael i oedolion mabwysiedig a’u rhieni a pherthnasau naturiol, nid yn unig ar adeg y mabwysiadu, ond ar unrhyw adeg trwy gydol eu bywydau.
  • Amddiffyn Plant: Mae dyletswydd ar yr Awdurdod, trwy ei Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, i hyrwyddo ac amddiffyn lles plant mewn angen trwy ddarparu ystod o wasanaethau i fodloni’r anghenion hynny. Mae dyletswydd arno hefyd i amddiffyn plant rhag camdriniaeth a rhaid iddo ymchwilio i unrhyw honiadau a wneir gan unrhyw un sy’n amau bod plentyn yn cael ei gam-drin. Dylai unrhyw un sy’n amau bod plentyn yn cael ei gam-drin gysylltu ag unrhyw un o Swyddfeydd y Gwasanaethau Cymdeithasol, Llinell Gymorth Amddiffyn Plant yr NSPCC neu’r Heddlu.
  • Maethu:  Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Blaenau Gwent yn recriwtio a hyfforddi gofalwyr maeth. Caiff gofalwyr maeth eu hasesu a’u cymeradwyo gan Banel Maethu’r Awdurdod Lleol i ofalu am blant a phobl ifanc sy’n methu byw gyda’u teuluoedd. Os oes diddordeb gennych mewn bod yn ofalwr maeth ar gyfer Blaenau Gwent cysylltwch â Rheolwr Tîm y Tîm Maethu.

Cyfrinachedd

Bydd unrhyw wybodaeth a dderbynnir gennych yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol ac efallai bydd gennych yr hawl i weld hwn yn unol â Rheoliadau Mynediad at Ffeiliau Personol (Gwasanaethau Cymdeithasol).

Oes gennyf unrhyw ddweud ar yr hyn a dderbyniaf?

Oes, mae’ch barn yn cael ei hystyried ar bob cam ac rydym hefyd yn annog defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr i gymryd rhan yng nghynllunio’r gwasanaethau. Hoffem glywed eich barn am ein gwasanaethau a chlywed unrhyw syniadau sydd gennych i’w gwella.

Gwybodaeth Gyswllt

IAA  TEAM (Children's Services)
 

Telephone Number: (01495) 315700
Fax: (01495) 353350

Address: Blaenau Gwent County Borough Council
Anvil Court
Church Street,

Abertillery
Gwent, NP13 1DB 

Email Address:

For referrals:

Email: duty.team@blaenau-gwent.gov.uk