Tîm Anabledd

Mae’r Tîm Anabledd yn dîm pob oedran lle rydym yn gweithio gyda phlant gydag anableddau o 0 oed, drwy bontio ac ymlaen i fywyd fel oedolion. Drwy fod yn dîm pob oed, a bod â chefnogaeth benodol o amgylch pontio, rydym yn sicrhau fod plant a’u teuluoedd yn cael cefnogaeth lawn wrth ystod symud ymlaen i wasanaethau oedolion gan y gall hwn fod yn gyfnod anodd a phryderus iawn i’r plentyn a’r teulu. Er ein bod yn dîm pob oedran, mae cefnogaeth benodol ar gyfer plant gydag anableddau.

Ar gyfer plant gydag anableddau, ein nod yw cefnogi plant i fyw gyda’u teuluoedd a mwynhau’r un cyfleoedd a disgwyliadau â phlant eraill. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda phlant a theuluoedd i gyflawni eu deilliannau personol sy’n gwella eu llesiant. Mae gan ein tîm hefyd weithwyr pontio i sicrhau fod plant yn cael profiad cadarnhaol wrth iddynt symud ymlaen i wasanaethau oedolion.

Mae Therapydd Galwedigaethol hefyd yn rhan o dîm ac mae’n cynnal asesiadau yng nghyswllt plant gydag anableddau a all fod angen offer neu addasiadau arbennig i gartref y teulu. Gall y Therapydd Galwedigaethol hefyd gefnogi plant gydag anableddau sydd ag anawsterau synhwyraidd drwy gynnal asesiadau synhwyraidd a rhoi cymorth a chyngor yn dilyn hyn.

Mae’r Tîm yn gweithio i egwyddorion a gofynion y ddeddfwriaeth yng nghyswllt plant a phobl ifanc.

Darganfod pa gefnogaeth sydd ei angen arnoch? (Asesiad o Angen)

Cyn i ni all cynnig cymorth i chi, mae angen i ni ddarganfod yn union pa fath o gefnogaeth sydd ei angen arnoch. Rydym yn gwneud hyn trwy’r broses asesu.

Mae gan blant a phobl ifanc anabl hawl gyfreithiol i gael asesiad o’u hanghenion (ac anghenion eu gofalwyr) ar gais. I helpu cael y darlun cliriaf o anghenion eich plentyn, efallai bydd angen i ni ymgynghori gyda Iechyd, Addysg ac unrhyw asiantaethau gwirfoddol eraill sydd hefyd ynghlwm.

Unwaith i’n hasesiad gadarnhau bod eich plentyn yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y tîm ac yn nodi pa wasanaethau cefnogaeth sydd eu hangen arnoch, byddwn yn cychwyn eu rhoi ar waith.

Ymhlith y gwasanaethau gallwn gynnig (yn ddibynnol ar gymhwyster) mae:

  • Gweithwyr alllwedol, ac yn cysylltu gyda gwasanaethau eraill tebyg i iechyd ac addysg
  • Cyfarfodydd gofal a chymorth rheolaidd i sicrhau fod y cynllun presennol yn cyflawni eich deilliannau teuluol
  • Cefnogaeth pontio
  • Cyfleusterau egwyl byr (seibiant) yn cynnwys cymorth yn y gymuned
  • Cefnogaeth o Wasanaeth Cyflawni Newid gyda’n Gilydd
  • Offer cymorth ac addasiadau
  • Asesiadau gofalwyr
  • Atgyfeirio ar gyfer gofalwyr ifanc
  • Gweithio gyda gwasanaethau cyffredinol tebyg i Sparkle a Teuluoedd yn Gyntaf
  • Derbyn gwybodaeth o’r Fynegai Anabledd
  • Cyngor am elusennau cofrestredig
  • Cymorth gofal cartref

Mwy o wybodaeth am y gwasanaethau

Seibiannau byr – cyswllt teuluol:  Mae’r gwasanaeth hwn yn gallu darparu seibiannau byr rheolaidd gan gynnwys tripiau dros nos trwy greu cyswllt rhwng y plentyn anabl â theulu arall. Mae’r gwasanaeth yn cynnig seibiannau i rieni a phrofiadau newydd i’r plentyn. Mae teuluoedd cyswllt yn cael eu hasesu’n drylwyr ac yn derbyn taliad a chefnogaeth barhaus.

Cefnogaeth Gymunedol:  Mae’r Tîm Anabledd yn gweithio’n agos gyda Thîm Cyflawni Newid gyda’n Gilydd Barnado’s. Gall y tîm gynnig cefnogaeth/cyngor i rieni sy’n benodol ar gyfer anghenion y teulu ar sail unigol. Mae’r gwasanaeth hefyd yn rhedeg grwpiau y gall plant gydag anableddau eu mynychu a meithrin eu sgiliau cymdeithasol yn ogystal â’u hannibyniaeth.

Bydd y gweithiwr cymorth yn cynorthwyo’r plentyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau o fewn eu cymuned i helpu’r plentyn i deimlo fel rhan o’u cymuned a datblygu’u sgiliau cymdeithasol ac annibyniaeth e.e. clwb ieuenctid, clwb nofio, ymweld â lleoedd o ddiddordeb, ac ati.

Gofal yn y Cartref:  Cynigir Gofal yn y Cartref i ddarparu cefnogaeth ymarferol yng nghartref y plentyn.

Cefnogi Pobl Ifanc gyda Phontio i Fywyd fel Oedolion

Mewn cysylltiad â gweithwyr proffesiynol eraill, gall y Tîm Anabledd sicrhau y caiff pobl ifanc gydag anableddau eu cefnogi wrth iddynt bontio i fywyd fel oedolion. Er enghraifft, bydd ystod o weithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â chefnogi'r person ifanc gydag anableddau (yn cynnwys Gwasanaethau Cymdeithasol Gwasanaethau Oedolion) yn gweithio gyda'r person ifanc, o'u pen-blwydd yn 14 oed, a'u teulu i asesu a chynllunio cefnogaeth. Bydd hyn yn sicrhau fod y gefnogaeth angenrheidiol yn ei lle ar gyfer y person ifanc pan fyddant yn cyrraedd eu pen-blwydd yn 18 oed.

Mynegai Anabledd

Mae Deddf Plant 1989 yn ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Lleol gasglu gwybodaeth am blant a phobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol neu anabledd.

Mae'r Mynegai yn dod ynghyd â'r cofrestri a gedwir gan Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynllunio ar gyfer y dyfodol ar gyfer plant gydag unrhyw anabledd a/neu gyflwr iechyd sy'n newid bywyd.

Mae'r Mynegai yn gronfa ddata gyfrifiadurol gyfrinachol a diogel sy'n cadw'r holl wybodaeth sydd ei hangen am blant a phobl ifanc 0-18 oed gydag unrhyw anabledd a/neu gyflwr iechyd sy'n newid bywyd.

Bydd y Mynegai yn ein galluogi ar y cyd i:

  • Gasglu a chyflenwi gwybodaeth ar gyfer y cyfnod nesaf a hefyd flynyddoedd y dyfodol - o Ysgolion a Chludiant i Gynlluniau Gwyliau a Gofal Seibiant. Mae hyn yn sicrhau y caiff plant a'u teuluoedd eu cynnwys wrth gynllunio gwasanaethau.
  • Sicrhau bod plant a'u teuluoedd yn gwybod beth sy'n digwydd ym Mlaenau Gwent a sut i ddarllen a chael gwasanaethau.

Sut ydw i’n cael cefnogaeth oddi wrth y Tîm Plant Anabl?

Os oes gennych blentyn anabl a’ch bod yn dymuno defnyddio unrhyw un o’r gwasanaethau hyn, yn gyntaf bydd angen i weithiwr cymdeithasol asesu anghenion eich plentyn.

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

I gael gwybodaeth, cyngor a chymorth, neu i wneud atgyfeiriad atgyfeiriad neu adroddiad am bryderon yn gysylltiedig â:

  • person 18 oed neu drosodd, cysyllwch â Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion.
  • plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â Hyb IAA Gwasanaethau Plant.

Ffôn: 01495 315700
E-bost:duty.team@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350

Ar gyfer gwybodaeth ac ymholiadau:
E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk

Pencadlys:

Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB

Ffôn: (01495) 354680
Ffacs: (01495) 355285