Sut ydw i’n gallu gweld fy ffeil?

Cyflwyniad

Mae'n rhaid i ni gadw rhai cofnodion am ein hymwneud gydag unrhyw un sy'n defnyddio ein gwasanaethau. Cedwir cofnodion am wahanol gyfnodau yn unol â deddfwriaeth briodol.

Os ydych yn derbyn help gennym, neu wedi derbyn help gennym, cewch fynediad i'ch cofnodion lle bynnag sy'n bosibl. Gallwch hefyd ofyn i rywun arall gysylltu â ni ar eich rhan, megis perthynas neu eiriolydd. Mewn achosion fel hyn byddai angen i ni wirio eich bod wedi rhoi caniatâd i ni ryddhau unrhyw wybodaeth. 

Eich hawliau cyfreithiol

Mae 'gwybodaeth bersonol' yn golygu unrhyw beth a allai ddangos pwy ydych chi, fel eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni, a gwybodaeth am eich ymwneud gyda ni.

Daw gwybodaeth bersonol amdanoch chi a gedwir ar gyfrifiadur hefyd o fewn Deddf Diogelu Data 1998. Mae hyn yn dweud, gyda rhai eithriadau, fod gennych hawl mynediad i wybodaeth bersonol a gedwir amdanoch.

Eithriadau

Mae rhai amgylchiadau pan efallai na fydd gwybodaeth ar gael, sef:

  • lle mae gwybodaeth am berson arall;
  • gwybodaeth am atal a datrys troseddau;
  • gwybodaeth sydd wedi'i chyfyngu’n gyfreithiol (cofnodion mabwysiadu yn bennaf);
  • mewn amgylchiadau eithriadol iawn, os oes risg o anaf.

Sut gallaf ofyn am gael gweld fy ffeil?

Ysgrifennwch at:

Adran Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent
Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB

Dylai eich llythyr gynnwys eich enw, cyfeiriad a'ch dyddiad geni a digon o fanylion i ni wybod pwy ydych a gwybod pa wybodaeth yr ydych ei heisiau.

Byddwn yn ysgrifennu atoch i gydnabod eich cais o fewn 5 diwrnod gwaith. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth i chi o fewn 40 diwrnod o dderbyn eich cais.

Mae'n rhaid i ni ymgynghori gyda gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau eraill, er enghraifft yr Awdurdod Iechyd, cyn rhoi gwybodaeth i chi a gawsom ganddynt amdanoch chi.

Beth os gwrthodir mynediad i mi?

Os dywedir wrthych na chaniateir i chi weld eich ffeil bersonol, mae gennym hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn drwy gysylltu â Gwasanaethau Cymdeithasol yn y cyfeiriad ar dudalen 2 er mwyn cael mynediad i weithdrefn gwynion Gwasanaethau Cymdeithasol.

Beth os oes camgymeriadau yn fy ffeil?

Er mwyn sicrhau fod yr wybodaeth a ddelir yn gywir, os oes camgymeriadau ffeithiol yn eich ffeil, mae gennych hawl i gael cywiro'r camgymeriadau hyn a dileu unrhyw wybodaeth ddiangen.

Mae gennych hawl i apelio os dywedwn wrthych na chaiff y ffeil ei newid (fel yr amlinellir uchod).

Gwybodaeth Gyswllt

I gael gwybodaeth, cyngor a chymorth, neu i wneud atgyfeiriad atgyfeiriad neu adroddiad am bryderon yn gysylltiedig â:

  • person 18 oed neu drosodd, cysyllwch â Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion
  • plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â hyb IAA Gwasanaethau Plant

IAA Gwasanaethau Oedolion

Ffôn: 01495 315700
E-bost: DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350

IAA Gwasanaethau Plant

Ffôn: 01495 315700
E-bost: duty.team@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350

Ar gyfer gwybodaeth ac ymholiadau:
E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk

Pencadlys:

Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB

Ffôn: (01495) 354680
Ffacs: (01495) 355285