Beth yw hi a sut allwch chi gymryd rhan?

Dull cydweithredol newydd gan y cyngor i adeiladu cymuned deg, gynhwysol a gwydn trwy weithio’n agos â thrigolion a phartneriaid i gyd-ddylunio a chyflenwi gwasanaethau yw Bargen Blaenau Gwent.
Fel cyngor, mae ein gweledigaeth yn un o ddyfodol heb anghydraddoldeb, ble mae pawb yn ffynnu.
I lwyddo yn hyn o beth, mae angen i ni greu newid parhaol trwy adeiladau ymddiriedaeth, meithrin cydgyfrifoldeb, a gyrru arloesi trwy gydweithrediad cryf rhwng y cyngor, trigolion a phartneriaid.
I wneud hyn, rydym yn cyflwyno ffordd newydd o weithio gyda thrigolion a chymunedau yn hytrach na chyflenwi gwasanaethau iddyn nhw’n unig.
Tasglu Llifogydd Cwm yn arwain ffordd newydd o weithio gyda'r Cyngor
Ar ôl cael eu taro'n wael gan lifogydd yn ystod Storm Bert flwyddyn yn ôl, yn ysbryd 'Y Fargen' mae grŵp o drigolion yn gweithio law yn llaw â'r Cyngor ar wydnwch cymunedol ac ymateb i ddigwyddiadau.
BETH yw’r Fargen?
- Mudiad yw’r Fargen; mae’n feddylfryd sy’n ymwneud â thrawsnewid y ffordd yr ydym oll yn gweithio gyda’n gilydd
- Mae’r Fargen yn ymwneud â datblygu perthynas newydd â thrigolion a phartneriaid
- Mae’r Fargen yn ymwneud ag adeiladu ar gryfderau a chapasiti mewn cymunedau
- Mae’r Fargen yn ymrwymiad gwirioneddol at weithio GYDA’N GILYDD i ddylunio a chyflenwi gwasanaethau a chyfleusterau.
Bydd yn cael ei chyflenwi yn unol â saith egwyddor a ddatblygwyd ac a gytunwyd gan Gynulliad Pobl Blaenau Gwent:
- Mwy o Ymglymiad Cyhoeddus wrth Lunio'r Lleoedd – cynnwys trigolion yn gynnar, yn barhaus ac yn ystyrlon.
- Meithrin Gwirfoddoli ac Arweinyddiaeth Gymunedol – cefnogi pobl i gymryd rhan a chyfrannu.
- Hybiau Cymunedol – creu canolfannau croesawgar ar gyfer cysylltu a gwybodaeth.
- Rhannu Grym drwy Ymdrech Ar y Cyd – cryfhau cydweithrediad rhwng y Cyngor a chymunedau.
- Balchder a Photensial ar gyfer y Dyfodol – dathlu cyflawniadau a chefnogi pobl i ffynnu.
- Ail-greu Canol Trefi Ffyniannus – adfywio canol trefi fel mannau cymunedol bywiog.
- Dysgu a Gwrando – cydnabod bod gwelliant yn broses parhaus a adeiladir drwy gydweithio
PAM fod angen Bargen?
- Ers 2010, mae cynghorau yng Nghymru wedi colli dros un rhan o bump o’u cyllid
- Yn y cyfamser, mae gwasanaethau ar sail galw wedi cynyddu’n sylweddol
- I lenwi’r bwlch, mae cynghorau wedi codi incwm ac wedi torri gwasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau dewisol a chyffredinol – yr union bethau sy’n atal iechyd gwael ac sy’n lleihau galw hirdymor.
- Trwy ddod yn Gyngor Marmot, rydym wedi derbyn yr egwyddorion sy’n anelu at fynd i’r afael â ffactorau cymdeithasol-economaidd sy’n effeithio ar iechyd a lles pobl.
- Mae Bargen Torfaen yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a bydd yn ffurfio cynlluniau cyflenwi blynyddol.
SUT allwch chi gymryd rhan?
- Os oes gyda chi syniad i’r Fargen – er enghraifft, gwasanaeth neu gyfleuster cymunedol newydd yn eich ardal leol – cysylltwch â’ch cynghorydd lleol.
- Gwirfoddolwch yn eich cymuned leol neu ymunwch â grŵp lleol.
- Cefnogwch gynhyrchwyr a busnesau lleol a chanol trefi.
Ymgyrch Bwydo ar y Fron Blaenau Gwent yn Disgleirio mewn Cynhadledd Genedlaethol
Cynlluniwyd yr ymgyrch 'Dewch i Fwydo ar y Fron Blaenau Gwent' gan famau Blaenau Gwent, ar gyfer mamau Blaenau Gwent. Mae wedi cael ei harwain yn falch gan y gymuned, gyda mamau lleol yn hyfforddi fel cefnogwyr cyfoedion i roi cyngor, anogaeth a chyfeillgarwch i eraill ar eu teithiau bwydo ar y fron. Mae'r cefnogwyr cyfoedion hyn bellach yn cynnal grwpiau cymorth rheolaidd a sesiynau galw heibio cymunedol ar draws y fwrdeistref.