Sut i wneud cais?

Os ydych yn cynllunio unrhyw waith adeiladu neu ddymchwel ym Mlaenau Gwent, mae'n rhaid i chi:

Mae'r Porth Cynllunio  yn rhoi mwy o gyngor a gellir ei ddefnyddio i wneud cais am ganiatâd cynllunio. Mae canllawiau help hefyd ar gael ar y wefan.

Gallwch hefyd lawrlwytho ffurflenni cynllunio a'u dychwelyd at:

Rheoli Datblygu,Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glyn Ebwy, NP23 6DN

Mathau o Ffurflenni Cais

Gwaith adeiladu ar eich tŷ

Ar gyfer gwaith o amgylch eich tŷ yn cynnwys:

  • Newidiadau i'r adeilad
  • Adeiladu strwythur newydd

Byddwch angen y dilynol:

Mae gwaith adeiladu arall yn cynnwys newidiadau i adeiladau presennol a datblygu adeilad newydd.

Byddwch angen y dilynol:

Ffurflenni cynllunio eraill:

Caniatâd Cynllunio Amlinellol

Gall caniatâd cynllunio amlinellol weithiau fod yn briodol pan fyddwch angen cytundeb 'mewn egwyddor' am eich datblygiad arfaethedig, heb orfod ymrwymo i ddyluniad neu gynllun penodol.

Mae 2 math o gais cynllunio amlinellol:

Y materion a gadwyd yw: ymddangosiad, tirlunio, mynediad, cynllun a maint.

Materion a gadwyd yn dilyn cymeradwyaeth amlinellol

Materion a gadwyd yn dilyn cymeradwyaeth amlinellol. Os ydych wedi sicrhau caniatâd cynllunio amlinellol (gyda rhai neu'r holl faterion a godwyd) bydd angen i chi wneud cais o fewn amserlen benodol i gael caniatâd ar gyfer y materion a gadwyd, cyn i chi ddechrau gwaith. Canllawiau help.

Cais i Ollwng Amod

Mae angen cais i ollwng amod pan fo amod yn y caniatâd cynllunio neu ganiatâd adeilad rhestredig yn gofyn am wybodaeth ychwanegol. Mae'n rhaid cyflwyno'r manylion neu ddogfennau yr ydych wedi gofyn amdanynt ar gyfer cymeradwyaeth yn unol ag amserlenni a nodwyd. Mae'r canllawiau help yn cynnig mwy o wybodaeth am lenwi'r ffurflen gais.

Gwelliant ansylweddol

Mae gwelliant ansylweddol i ganiatâd cynllunio presennol ar gyfer pan fo angen i chi newid manylion a gymeradwywyd yn flaenorol megis newid bach mewn dyluniad neu ddefnyddiau a ddefnyddir ar brosiect. Canllawiau help.

Dileu neu amrywio amod yn dilyn rhoi caniatâd cynllunio

Mae dileu neu amrywio amod yn dilyn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer pan roddwyd caniatâd cynllunio i chi eisoes ond yr hoffech ddileu neu newid amod yn y caniatâd, er enghraifft i wneud mân welliannau sylweddol i gynlluniau a gymeradwywyd. Canllawiau help.

Dymchwel adeiladau

Os dymunwch ddymchwel eich tŷ, neu adeilad arall, bydd angen cytundeb ar fanylion sut y bwriadwch wneud y gwaith dymchwel a sut y cynigiwch adfer y safle wedyn. Mae rhai gweithdrefnau y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â nhw cyn dymchwel adeilad - Gweithdrefn Hysbysiad Ymlaen Llaw.

Mae mwy o wybodaeth ar wefan Porth Cynllunio.

Dangos hysbysebion

Os ydych eisiau dangos hysbyseb, megis:

  • Arwydd siop neu fusnes (gyda neu heb oleuadau)
  • Hysbysfyrddau
  • Arwyddion sy'n hongian/estyn allan
  • Baneri

Gall fod angen i chi wneud cais am Ganiatâd Hysbyseb. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y canllaw help.

Os yw'ch adeilad mewn ardal gadwraeth

Os ydych yn bwriadu dymchwel adeilad neu strwythur mewn ardal gadwraeth, bydd angen i chi wneud cais am Ganiatâd Ardal Gadwraeth ar gyfer dymchwel.  Gallwch ddefnyddio'r canllawiau help wrth lenwi ffurflen.

Adeiladau rhestredig

Mae'n rhaid i chi wneud cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig os ydych yn cynllunio unrhyw waith dymchwel, newid neu estyniad sy'n effeithio ar gymeriad a gosodiadau adeilad rhestredig statudol. Mae mwy o wybodaeth am lenwi'r ffurflen gais yn y canllawiau help.

Tystysgrif Datblygu Cyfreithlon (LDC) sy'n bodoli eisoes

Os ydych yn berchen darn o dir neu adeilad ac y caiff ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer gweithgaredd - megis cynnal busnes - gallwch wneud cais am dystysgrif fydd yn cadarnhau fod y defnydd/datblygiad yn gyfreithlon. Gelwir hyn yn Dystysgrif Datblygu Cyfreithlon.

Gall hyn fod yn ddefnyddiol os ydych yn ceisio gwerthu tir/eiddo ond yn canfod na chafodd caniatâd cynllunio ei roi erioed a'ch bod eisiau bodloni unrhyw ddarpar brynwyr fod estyniad neu weithredu neu fusnes sy'n digwydd yn gyfreithlon. I gael tystysgrif byddai angen i chi roi tystiolaeth i gefnogi cais o'r fath ac i ddangos un ai nad oedd angen caniatâd cynllunio neu y daeth y gweithiau'n gyfreithlon oherwydd eu bod wedi bodoli am gyfnod penodol.

Cynnig - Tystysgrif Datblygu Cyfreithlon

Os ydych yn cynnig codi adeilad neu ar gyfer defnydd penodol, gallwch wneud cais am Dystysgrif Datblygu Cyfreithlon neu ddefnydd. Defnyddiwch y canllawiau help  wrth lenwi'r ffurflen. Mae cymeradwyo cais o'r fath yn rhoi penderfyniad ffurfiol na fyddai angen caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad/defnydd.

Hysbysiad perchnogion - a beth i'w wneud os yw'r perchennog yn anhysbys

Os bwriedir gwneud gwaith adeiladu mae'n rhaid dweud wrth berchennog y tir, adeiladau neu safle, gelwir yn hyn rhoi hysbysiad.  Perchennog y safle yw'r rhydd-ddeiliad neu'r lles-ddeiliaid (os oes o leiaf saith mlynedd o'r les ar ôl). Mae gweithdrefnau eraill ar gael ar gyfer sefyllfaoedd lle mae'r perchennog tir yn hysbys a pherchnogion rhan neu'r holl safle yn anhysbys.

Llenwi Ffurflen Hysbysiad Perchennog.

Gallwch gysylltu â ni i gael mwy o fanylion neu ymweld â'r wefan Porth Cynllunio.

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Rheoli Datblygu
Rhif Ffôn: (01495) 364847
Cyfeiriad: Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glyn Ebwy, NP23 6DN
Cyfeiriad E-bost: planning@blaenau-gwent.gov.uk