A wyf angen caniatâd cynllunio?

Gall fod angen i chi gael caniatâd cynllunio os ydych eisiau codi adeilad newydd neu wneud gwaith adeiladu neu beirianneg arall ar eich eiddo. Gallech hefyd fod angen caniatâd cynllunio os ydych yn newid y ffordd y caiff yr adeilad neu dir ei ddefnyddio.

Byddwch fel arfer angen caniatâd cynllunio neu gymeradwyaeth cysylltiedig er mwyn:

  • Codi adeilad newydd
  • Ymestyn neu newid adeilad presennol
  • Gwneud newidiadau i'r ffordd y defnyddir adeilad, er enghraifft troi tŷ yn fflatiau neu wneud siop yn gartref
  • Gwneud gwaith peirianneg neu waith arall, megis gwaith cloddio neu godi wal gadw
  • Dymchwel adeilad neu strwythur
  • Gwneud gwaith ar Adeilad Rhestredig
  • Gwneud gwaith mewn Ardal Gadwraeth
  • Gwneud gwaith ar goed gwarchodedig neu goed mewn ardal gadwraeth
  • Codi adeiladau amaethyddol newydd

Mae'r wefan Porth Cynllunio yn cynnwys mwy o wybodaeth i'ch helpu i ganfod pa fath o ganiatâd cynllunio y gallech fod ei angen. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi dewis fersiwn Cymru ar ochr dde uchaf fel y dudalen fel bod yr wybodaeth a rheoliadau yn berthnasol i Gymru.

Mae gan y Porth Cynllunio hefyd ddiagram rhyngweithiol o dŷ i roi cyngor cynllunio ar wahanol rannau eich eiddo, megis newid ffenestri, adeiladu garej ac estyniadau.

Datblygiad a ganiateir - lle nad ydych angen caniatâd cynllunio

Mae rhai mân welliannau, newidiadau ac estyniadau y gallwch eu gwneud i'ch cartref nad ydych angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer. Gelwir y rhain yn ddatblygiadau a ganiateir. Gallant gynnwys adeiladu rhai mathau o gynteddau, ystafelloedd haul dan faint neilltuol a hefyd rai newidiadau mewnol.

Gallwch gael cyngor am hawliau datblygiadau a ganiateir o wefan Llywodraeth Cymru neu o wefan y Porth Cynllunio.

Ffyrdd eraill i wirio os ydych angen caniatâd cynllunio

Os ydych yn ansicr os ydych angen caniatâd cynllunio gallwch:

  • Gael cyngor gan ymgynghorwyr cynllunio
  • Gwirio canllawiau ar wefannau Llywodraeth Cymru a'r Porth Cynllunio
  • Cael cyngor cyn-gwneud cais gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

Gwybodaeth Gyswllt

Rheoli Datblygu
Rhif Ffôn: (01495) 364847
Cyfeiriad: Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glyn Ebwy, NP23 6DN
Cyfeiriad E-bost: planning@blaenau-gwent.gov.uk